Navigation

Content

Rhostir wedi ei ddifetha

Dyddiad: 21.02.2012

Mae staff Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych wedi beirniadu grðp o unigolion a achosodd ddifrod i’r rhostir uwchlaw Dyffryn Dyfrdwy drwy yrru cerbydau 4x4 yno’n  ddi-hid heb ganiatâd.

Roedd tîm cefn gwlad y Cyngor wedi adfer oddeutu tri chwarter acer o dir cyn hynny wrth chwarel Moel y Faen ger Caffi Ponderosa uwchlaw Llangollen ac roedd yn gwella gyda gwair ac ychydig o rug yn dechrau tyfu mewn mannau.

Ond, yn dilyn y digwyddiad diweddar yma, mae’r gwair wedi ei symud gan y teiars mewn mannau ac mae yna arwyddion amlwg bod y lle wedi ei ddefnyddio gyda thraciau teiars yn mynd yr holl ffordd i fyny’r ardal sydd wedi ei hadfer.

Dywedodd Nick Critchley, Swyddog Maes y Rhostir i Brosiect y Grug a’r Caerau: "Mae’n dorcalonnus gweld ein hymdrechion yn cael eu gwastraffu’n llwyr unwaith eto.  Mae’r Gwasanaeth Cefn Gwlad wedi bod yn gweithio’n ddiflino efo swyddogion Heddlu Gogledd Cymru i daclo problemau gyda phobl yn defnyddio cerbydau’n anghyfreithlon oddi ar y ffordd yn yr ardal ac rydyn ni wedi cael peth llwyddiant.

"Rydyn ni hefyd wedi gweithio’n agos â gwirfoddolwyr, grwpiau cadwraeth a grwpiau cymunedol i drwsio difrod a achoswyd gan gerbydau oddi ar y ffordd yn yr ardal ac roedden ni i ddilyn y gwaith adfer gwreiddiol drwy ledaenu mwy o rug y gwanwyn yma.

"Ond, mae’r digwyddiad diweddaraf yma’n dangos nad ydi’r neges yn treiddio drwodd i leiafrif o unigolion sy’n credu ei bod hi’n briodol difrodi cefn gwlad.  Mae ein rhostir grug ym Mryniau Clwyd ac ardaloedd Mynydd Llandysilio mor werthfawr - mae’n rhaid i ni weithio efo’n gilydd i daclo’r ymddygiad gwrthgymdeithasol yma."

Footer

Gwnaed gan Splinter