Navigation

Content

Cais am wirfoddolwyr cadwraeth bryngaerau ar safle 2,500 o flynyddoedd oed

Dyddiad: 12.09.2011

Math: Volunteering

Mae yna gais am wirfoddolwyr  i helpu â thasg arbennig iawn ym mryngaer Caer Drewyn, Corwen, y mis yma.


Dydd Mercher 21ain a dydd Iau 22ain bydd Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych a Phrosiect y Grug a’r Caerau’n gwneud gwaith atgyweirio difrod erydiad ar yr heneb sy’n 2,500 o flynyddoedd oed ac maen nhw’n gofyn am help gan y cyhoedd â’r prosiect.


Mae bryngaer drawiadol Caer Drewyn, a elwir yn lleol yn Fynydd y Gaer yn unigryw yn yr ardal gan fod ei chloddiau anferth (rhagfuriau) wedi eu gwneud o garreg.  Dros y blynyddoedd mae’r rhain wedi dechrau cwympo ac wedi blocio’r fynedfa wreiddiol.


Bydd y digwyddiad ‘Trwsio’r Gorffennol’ y mis Medi yma’n gwneud gwaith trwsio’r erydiad ym mynedfa’r dwyrain drwy osod haen o bilen ar draws y fynedfa a’i gorchuddio â thyweirch i ddiogelu’r archeoleg a hefyd i wneud mynediad yn saffach.


Bydd yr archeolegydd Erin Robinson ar y safle i siarad am hanes y fryngaer ac fe geir taith o’r safle ar y ddau ddiwrnod. Dywedodd Erin:  “Mae Mynydd y Gaer yn safle sy’n annwyl iawn i lawer a bydd pobl yn ymweld ag o’n rheolaidd.  Mae yma gyfoeth o hanes yn dyddio’n ôl filoedd o flynyddoedd gan fod y gaer wedi ei hadeiladu o gwmpas amser yr Oes Haearn 800BC-43AD ac wedi ei defnyddio ers hynny, yn cynnwys ymweliad gan Owain Glyndðr!  Heddiw mae’n gartref i ystod o fywyd gwyllt yn cynnwys melyn yr eithin a chennau prin.  Mae angen eich help chi ar y fryngaer yn awr i sicrhau y gellir ei mwynhau yn y dyfodol, felly rydyn ni’n apelio am wirfoddolwyr i ddod i’n helpu ni i helpu’r fryngaer i sefyll am 2000 o flynyddoedd eto.”


Mae Caer Drewyn yn Heneb Gofrestredig ac mae’r gwaith hwn wedi ei gymeradwyo gan Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru.
Fe gynhelir y digwyddiad ar ddydd Mercher a dydd Iau Medi’r 21ain a’r 22ain .  Cyfarfod am 10am yng Nghanolfan Hamdden Corwen, cyfeirnod grid SJ068442.


Cynghorir gwisgo dillad ac esgidiau call a dewch â chinio pecyn a digon o ddiod.  Mae’r daith i fyny i’r fryngaer yn cynnwys dringfa serth, gyson.
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Swyddfa Cefn Gwlad De Sir Ddinbych ar 01978 869619.


Mae Prosiect y Grug a’r Caerau, sy’n brosiect tair blynedd, yn datblygu menter £2.3 miliwn ar gyfer gwaith cadwraeth yr ucheldir ac mae wedi derbyn grant o £1.5 miliwn gan Gronfa Treftadaeth y Loteri.  I gael gwybodaeth bellach ewch i heatherandhillforts.co.uk.


Gallwch ein dilyn yn awr ar twitter! Ewch i www.twitter.com/HeatherHillfort neu ymunwch â’r grðp Facebook i gael mwy o ddiweddariadau ar y prosiect.


Nodiadau i olygyddion:
Gan ddefnyddio arian a gasglwyd drwy’r Loteri Genedlaethol, mae Cronfa Treftadaeth y Loteri’n cynnal ac yn trawsnewid ystod eang o dreftadaeth er mwyn i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol gymryd rhan ynddyn nhw, iddyn nhw ddysgu oddi wrthyn nhw a’u mwynhau.  O amgueddfeydd, parciau a lleoedd hanesyddol i archeoleg, amgylchedd naturiol a thraddodiadau diwylliannol, byddwn yn buddsoddi ym mhob rhan o’n treftadaeth amrywiol.  Mae CTL wedi cynorthwyo dros 30,000 o brosiectau gan ddyrannu dros £4.5 biliwn dros y DU, yn cynnwys dros 1,900 o brosiectau sy’n gyfanswm o fwy na £224 miliwn yng Nghymru.  I ddarganfod mwy, ewch i www.hlf.org.uk.

Footer

Gwnaed gan Splinter