Navigation

Content

Gweddnewidiwch eich gardd ar gyfer bywyd gwyllt

Dyddiad: 11.08.2011

Math: Bioamrywiaeth

Mae’n hawdd meddwl mai rhywbeth at ein pleser ni’n unig yw’n gerddi, ond os edrychwch yn ofalus fe welwch fod pob math o greaduriaid yn defnyddio’n gerddi. Os cânt eu rheoli’n gywir, gall gerddi fod yn gynefin perffaith i anifeiliaid a phlanhigion – rhai sy’n aml o dan fygythiad yn eu cynefin naturiol. Gall gardd gyffredin sy’n cael ei rheoli’n gywir gynnal hyd at 3000 o wahanol  ywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid!

Mae Rhwydwaith Bioamrywiaeth Gogledd Ddwyrain Cymru wedi lansio Pecyn Gwybodaeth Garddio Bywyd Gwyllt newydd, sy’n cynnig cymorth ac arweiniad ar weddnewid eich gardd yn hafan i fywyd gwyllt. Gall newidiadau bach hyd yn oed wneud gwahaniaeth mawr i fywyd gwyllt.

“Mae garddio bywyd gwyllt yn ffordd wych i bobl o bob oed wneud eu rhan dros gadwraeth”, yn ôl y Swyddog Bioamrywiaeth Lizzy Webster. “A’r hyn sy’n dda yw eich bod yn gallu gweld buddiannau’ch gwaith caled a gwylio bywyd gwyllt yn defnyddio’ch gardd.”

O dan yr  mgylchiadau iawn, gallwch weld draenogod yn chwilota yn y tyfiant, gwenyn yn hedfan o un blodyn i’r llall a phenbyliaid yn nofio yn eich pwll. Cymerwch funud neu ddwy i chwilio yn y llefydd llai amlwg hefyd – codwch ambell garreg i weld beth sydd oddi tani. Efallai y cewch eich synnu wrth weld faint o fywyd sydd yno!

Mae’r Pecyn Gwybodaeth am Arddio Bywyd Gwyllt ar gael i’w lwytho i lawr o adran bioamrywiaeth y wefan hon. 

Gardd bywyd gwyllt Loggerheads

Footer

Gwnaed gan Splinter