Newyddion a Digwyddiadau
Newyddion Diweddaraf
2023: Tymor llwyddiannus arall i’r môr-wenoliaid bach!
31.08.2023
Rhaglen Gwirfoddolwyf Ebrill 2019 - Medi 2019
17.05.2019
Tudalen Gweplyfr
Ar dân!
Dyddiad: 23.06.2011
Math: Volunteering
Ydych chi erioed wedi meddwl sut y mae’r golosg rydyn ni’n ei ddefnyddio ar ein barbeciws - os cawn ni dywydd - yn cael ei wneud? Mae’n cymryd yn hir – ond gwneud golosg o goetiroedd Cymru yw’r ffordd orau o sicrhau fod eich cig coch a’ch cywion ieir yn cael eu coginio’n berffaith!
Rai wythnosau’n ôl, aeth staff a gwirfoddolwyr Cefn Gwlad ati i wneud golosg o un o’n coedlannau ar hen reilffordd Corwen i Gynwyd.
Dyma sut aeth hi!
Dydd Llun
Diwrnod 1 – Y Paratoi
Aeth dau dîm o wirfoddolwyr a staff Cefn Gwlad Sir Ddinbych â’u bwyeill i dorri pentwr o goed yn ddarnau digon bychan i fynd i’r odyn. Yn y cyfamser, roedd grðp bychan, cymwynasgar, yn tanio’r barbeciw ac yn berwi’r tegell i roi gwledd o gig moch, byrgyrs a the neu goffi i bawb!
Dydd Mawrth
Diwrnod 2 – Y Tanio
Ar ôl tanio’r odyn am ddeg y bore, doedd yna ddim llawer i’w wneud heblaw sefyll o gwmpas, sgwrsio ac edrych ymlaen at yr hirddisgwyledig “wwsh”, sef fflamau enfawr yn saethu ac yn dangos ei bod yn adeg cau’r odyn a gadael i’r broses o garboneiddio ddechrau. Mae’r odyn yn cael ei selio â thywod a’i gadael am 36 awr!
Treuliwyd y prynhawn yn mwynhau barbeciw arall ac ar lan yr afon yn cael gwared ar Ffromlys yr Himalaia - planhigyn diarth ac ymwthiol sy’n prysur dagu afonydd a dyfroedd gwledydd Prydain.
Dydd Iau
Diwrnod 3 – Y Graddio
Wrth agor yr odyn tua 10.30am daeth y golosg i’r golwg. Mae hyn yn adeg lle mae pawb ar binnau – mae’n anodd dweud a fu’r broses yn llwyddiant nes agor yr odyn. I’w raddio, mae’r golosg yn cael ei roi mewn hidlen fawr; bydd y deunydd gorau yn cael ei adael ar ôl a’i roi mewn bagiau. Bydd y deunydd salach, manach, yn disgyn drwy’r tyllau ac yn cael ei gasglu at wahanol ddefnyddiau. Fel arfer, mae’n cael ei roi ar erddi pobl, ond y tro yma cafodd ei ddefnyddio i wneud barbeciw hyfryd arall! Wel, mi fyddai’n biti gwastraffu’r holl selsig yna, ‘n byddai!!