Navigation

Content

Ystyried ysgolion ar gyfer gwobr dreftadaeth wrth i adnoddau newydd gael eu lansio

Dyddiad: 09.05.2011

Dydd Iau, Mai 5ed, roedd staff a disgyblion o Ysgol Tir Morfa, y Rhyl yn hynod falch o groesawu beirniaid Menter Ysgolion Treftadaeth Cymru (MTYC) i’w hysgol.

Mae Ysgol Tir Morfa’n cael ei hasesu ar hyn o bryd ar gyfer gwobr MTYC am ei gwaith ffantastig yn edrych ar y Celtiaid a’u bryngaerau lleol.

Fe lansiwyd y Fenter yn 1990 a’i nod ydi annog pobl ifanc mewn ysgolion yng Nghymru i gymryd mwy o ddiddordeb yn eu treftadaeth a’r cyfraniad a wnaethpwyd iddi gan eu teuluoedd a’u cymunedau.  Bydd y Fenter yn cynnal cystadleuaeth flynyddol ar gyfer prosiectau treftadaeth mewn ysgolion yng Nghymru.

Dywedodd Fran Hoare o Ysgol Tir Morfa, y Rhyl: “Mae’r ysgol yn  hynod falch bod y gwaith a wnaethpwyd ar y Celtiaid yn haeddu ei ystyried ar gyfer y wobr hon!  Ond argaeledd adnoddau ardderchog drwy Brosiect y Grug a’r Caerau, gwybodaeth ar wefan y prosiect a’r teithiau tywys ym Mryngaer Penycloddiau gan staff a oedd yn arbenigwyr a ddaeth â’r pwnc yn fyw o ddifri.”

Fe lansiwyd dwy gist adnoddau addysg hefyd, a ddatblygwyd drwy Brosiect y Grug a’r Caerau, yn yr ysgol ar Fai 5ed.

Dywedodd Erin Robinson, Swyddog Cyfranogiad Cymunedol y prosiect, “Rydyn ni wedi creu dwy gist adnoddau i ysgolion eu benthyg drwy Wasanaeth Benthyca’r Llyfrgell i amlygu cyfoeth y dreftadaeth yn ein hucheldir lleol.  Yn awr fe all ysgolion fenthyg Celc Celtaidd sy’n canolbwyntio ar ‘Y Celtiaid’ a’n bryngaerau Oes Haearn lleol a Chist Drysor y Rhostir.

“Mae’r rhain yn darparu llawer o wybodaeth ar dreftadaeth ein hucheldir a’r ffordd y caiff y dirwedd ei defnyddio heddiw.  Mae’r ddwy gist yn orlawn o weithgareddau a chasgliadau i’w trin er mwyn gallu teimlo pwysau cleddyf o’r Oes Haearn neu hyd yn oed fwytho grugiar ddu – un o adar prinnaf Cymru!”

Gall ysgolion fenthyca’r Cistiau am dymor drwy gysylltu â Gwasanaeth Benthyca Llyfrgell Ysgolion Gogledd Ddwyrain Cymru sy’n cludo i dros 300 o ysgolion dros bedair sir.

Gall ysgolion gysylltu â’r Gwasanaeth Benthyca drwy ffonio 01352 704441, e-bostio NEWalesSLS@flintshire.gov.uk Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld. neu ymweld â http://www.flintshire.gov.uk/SlsLoans/LibraryHomeServlet

Drwy Gynllun Lleoli Athrawon Gyrfaoedd Cymru, bu llawer o athrawon o ogledd ddwyrain Cymru’n mynychu gweithdai efo Prosiect y Grug a’r Caerau i sicrhau fod yr adnoddau’n darparu popeth oedd ei angen arnyn nhw i ddelio â’r pynciau ac i sicrhau eu bod yn teimlo’n hyderus ynglþn ag ymweld â’r bryniau a’r bryngaerau efo’u dosbarthiadau.

Dywedodd Wendy Hughes, Arweinydd Pwnc  Hanes yn Ysgol Maesglas, Treffynnon, “ Roedd y gweithdai i athrawon yn ystod datblygiad y cistiau’n wirioneddol ddefnyddiol, ac o’r herwydd cafwyd rhai trafodaethau diddorol iawn wrth i ni geisio penderfynu beth yn union yr oedden ni am eu cael yn y cistiau adnoddau!  Roedd yn gyfle prin hefyd i athrawon weithio ochr yn ochr ag archeolegwyr ac arbenigwyr o brosiect y Grug a’r Caerau.  Yn ddiweddarach yn y tymor, fe gafodd ein dosbarth Blwyddyn 4 yn Ysgol Maesglas ddau ddiwrnod ffantastig yn mynd i’r afael â’r adnoddau, yn yr ysgol lle’r oedd y disgyblion wrth eu bodd yn gwisgo fel Celtiaid ac yn trin yr arteffactau, ac allan ar Foel Fenlli a Moel Famau’n fforio’r fryngaer ac yn archwilio cynefin y rhostir grug efo’r tîm.  Fe ddaeth â’n gwersi Hanes yn fyw go iawn!”

Mae Prosiect y Grug a’r Caerau am ddiolch i bawb a oedd yn gysylltiedig â gwneud y cistiau, yn enwedig Gyrfaoedd Cymru, Gwasanaeth Llyfrgell Ysgolion Gogledd Ddwyrain Cymru, Ysgol Maesglas ac Ysgol Tir Morfa a llongyfarchiadau i’r ysgolion ar eu hymroddiad ardderchog i dreftadaeth eu hardal leol.

Ysgolion eraill yn Sir Ddinbych, Conwy, Sir Fflint a Wrecsam a oedd yn amhrisiadwy yn y broses oedd Ysgol Gynradd Grîn Ewlo, Ysgol Gynradd Nercwys, Ysgol Gynradd Mountain Lane, Ysgol Plant Iau Fictoria, Wrecsam, Ysgol Pen Barras, Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair, Wrecsam, Ysgol Howells, Ysgol Sefydliad Derwen, Ysgol Bodfari, Ysgol Plant Iau Taliesin, Ysgol Sant Dunawd, Ysgol Sant Elfod ac Ysgol y Creuddyn.

Mae Prosiect y Grug a’r Caerau’n datblygu menter £2.3 miliwn ar gyfer gwaith cadwraeth yr ucheldir ac mae wedi derbyn grant o £1.5 miliwn gan Gronfa Treftadaeth y Loteri.  I gael rhagor o wybodaeth ewch i ygrugarcaerau.co.uk.

Gallwch ddilyn y prosiect yn awr ar twitter! Ewch i www.twitter.com/HeatherHillfort neu ymunwch â’r grðp Facebook i gael mwy o ddiweddariadau gan y prosiect.

Footer

Gwnaed gan Splinter