Newyddion a Digwyddiadau
Newyddion Diweddaraf
2023: Tymor llwyddiannus arall i’r môr-wenoliaid bach!
31.08.2023
Rhaglen Gwirfoddolwyf Ebrill 2019 - Medi 2019
17.05.2019
Tudalen Gweplyfr
Bywyd Newydd i Bwll Cymunedol
Dyddiad: 23.06.2011
Math: Bioamrywiaeth
Mae safle bywyd gwyllt sydd wedi ei esgeuluso ers amser wedi cael bywyd newydd gyda gwella cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt a darparu ardal i’r gymuned ei defnyddio, diolch i Gadw Cymru’n Daclus a Gwasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych.
Mae pyllau Llanynys rhwng Rhuthun a Dinbych yn gornel fach wyllt sydd wedi cael ei hanwybyddu am amser maith. Er nad yw hyn yn ddrwg i gyd o ran bioamrywiaeth, mae’r diffyg sylw dros gyfnod mor hir wedi golygu fod y lle wedi cyrraedd y pwynt lle’r oedd ei werth o ran bywyd gwyllt yn dechrau diflannu. Roedd yn adnabyddus unwaith am ei adar dðr fel y corhwyaid, a lle lle’r oedd pryfed lleol ac amffibiaid yn ffynnu ond gydag aildyfiant coed yn y pwll a deilbridd a llaid yn cynyddu roedd y pwll yn cael trafferth i ddargadw dðr.
Roedd ei esgeulustod ymddangosiadol yn golygu hefyd ei fod yn dod yn lle drwg o ran tipio anghyfreithlon ac roedd sbwriel yn dod nid yn unig yn hyllbeth ond roedd hefyd yn peryglu hynny o fywyd gwyllt a oedd ar ôl yno.
Ond diolch i gyllid gan Drefi Taclus a gwaith caled gan Wasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych, gwirfoddolwyr a chontractwr lleol Craig Evans, mae’r sbwriel wedi ei glirio, mae coed wedi eu torri’n ôl i ganiatáu i olau gyrraedd y dðr a’r glannau, mae llaid ac aildyfiant coed wedi eu clirio o’r tu mewn i’r pwll ac fe osodwyd mynediad newydd fel bod preswylwyr lleol yn gallu mwynhau’r hafan fach hyfryd yma. Bydd ail bwll sydd wrth ymyl yr un sydd wedi cael sylw, yn cael ei adael yn wyllt, gan ddarparu cyferbyniad effeithiol, er y bydd hwn angen tipyn o sylw hefyd yn y dyfodol.
Dywedodd Kate Taylor, Uwch Swyddog Bioamrywiaeth Sir Ddinbych “Rydyn ni wedi bod yn ymdrechu am beth amser i ddod o hyd i gyllid i allu helpu’r pwll hardd yma ac felly mae’n ffantastig ein bod wedi gallu rhoi’r help llaw sydd ei angen arno fo o’r diwedd i’w ddychwelyd yn hafan bywyd gwyllt fel ag yr oedd o’r blaen. Mae’r newid yn eithaf dramatig ac yn y blynyddoedd nesaf yma wrth i’r fflora ddatblygu ac i anifeiliaid ailgoloneiddio’r pwll, fe ddylai fod yn well na’i ogoniant blaenorol hyd yn oed.”
Dywedodd Gareth Jones, Swyddog Trefi Taclus Sir Ddinbych: “Dyma safle y buon ni’n ei glirio o dipio anghyfreithlon dros 5 mlynedd yn ôl yn dilyn pryderon gan breswylwyr lleol. Er bod y safle wedi aros yn lân am beth amser, mae’r rhai sy’n tipio’n anghyfreithlon wedi dychwelyd yn y blynyddoedd diwethaf, yn anffodus. Mae’r gymuned leol a’r ysgol wedi dangos diddordeb brwd yn y safle, ac roedd felly’n ardderchog ein bod wedi gallu cwblhau’r gwaith i’w wella, drwy weithio mewn partneriaeth â’n gilydd. Rwy’n gobeithio y bydd y bobl iawn yn ymweld â’r safle ac yn ei fwynhau ychydig yn amlach rðan, yn hytrach nag unigolion sy’n mynd allan yn y tywyllwch ac yn defnyddio cefn gwlad fel tomen sbwriel!”