Navigation

Content

Mae Bws Crwydro Bryniau Clwyd a Dyffryn yr Afon Ddyfrdwy yn ol.

Dyddiad: 23.06.2011

Cymerwch y cyfle i fwynhau cefn gwlad godidog Sir Ddinbych ar y bws gyda Gwasanaeth Haf Bws Crwydro Bryniau Clwyd a Dyffryn y Ddyfrdwy sydd yn rhedeg bob Dydd Sul.

Mae’r teithiau bws golygfaol yn cynnwys y Lein Las sy’n cysylltu’r Wyddgrug, y Rhyl, Dinbych, Rhuthun, Loggerheads, Bwlch yr Oernant, Llangollen a’r Waun, digon o leoedd i aros a mwynhau’r olygfa, cael picnic, mwynhau mynd am dro a llawer mwy.  Mae’r Lein Werdd yn cysylltu Prestatyn â’r Rhyl, Llanelwy, Dinbych, Llyn Brenig, y Bala, Dolgellau, y Bermo.

Mae’r Bws Brenig newydd â rhywbeth i bawb, yn darparu cludiant i Ganolfan Ymwelwyr a chaffi Llyn Brenig, golygfeydd syfrdanol, llwybrau ger y llyn ar gyfer pob gallu, pysgota â phlu, llwybrau rhostir a choetir neu heicio hirach.

Mae’r Gwasanaeth Crwydro Bryniau Clwyd yn gweithredu o Fehefin 26 tan Hydref 2 ac yn ystod y penwythnos cyntaf fe fydd teithio ar y Lein Las a’r Lein Werdd am ddim.  Mae rhwydwaith bws y gwasanaeth hamdden yn darparu gwerth ardderchog gyda theithio diderfyn yn ystod y dydd ar y rhwydwaith am £5.

Gellir cael manylion pellach ar www.denbighshire.gov.uk neu ffoniwch 01352 810614 i gael amserlen neu ffoniwch Traveline i gael amseroedd bws: 08712002233.

Footer

Gwnaed gan Splinter