Newyddion a Digwyddiadau
Newyddion Diweddaraf
2023: Tymor llwyddiannus arall i’r môr-wenoliaid bach!
31.08.2023
Rhaglen Gwirfoddolwyf Ebrill 2019 - Medi 2019
17.05.2019
Tudalen Gweplyfr
Canllaw newydd yn agor y drws i baradwys cerddwyr
Dyddiad: 04.03.2011
Math: Cerdded
Walking Difficulty: Unknown
Cyhoeddwyd canllaw newydd sbon i 14 taith gerdded fendigedig yng nghoedwigoedd a pharciau gwledig Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd.
Mae "Bryniau Clwyd – Llwybrau Cyfeirbwyntiedig" yn cynnwys rhywbeth i demtio pawb yn y paradwys hwn i gerddwyr, o daith gerdded hamddenol ar gyfer unrhyw allu, teithiau cerdded byr pleserus, llwybrau hirach sionc a llwybrau dringo ar hyd crib mynyddoedd – digon i gymryd eich anadl i ffwrdd.
Mae’r teithiau cerdded, sy’n amrywio o lai na 500 medr i fwy na 10km ac yn gallu cymryd o dim ond 20 munud i dros bum awr, yn cynnig cyfle i gerddwyr archwilio tirwedd ysblennydd o goedwigoedd, rhostir, cyrsiau dðr, hen hanes a golygfeydd rhagorol, gyda digon o gyfleoedd i weld bywyd gwyllt ar hyd y ffordd.
Mae’r canllaw newydd, sydd am ddim, yn gynnyrch cydweithrediad rhwng Comisiwn Coedwigaeth Cymru, sy’n rheoli coedwigoedd ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru, ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd gydag arian gan asiantaeth adfywio gwledig Cadwyn Clwyd.
Dywedodd Rachel Jones, Warden Partneriaeth Coedwigoedd ar gyfer CC Cymru ac AHNE, "Mae rhywbeth ar gyfer pawb yn y canllaw hwn. Gallwch greu teithiau cerdded hirach drwy gyfuno dwy neu fwy o deithiau cerdded, neu gerdded ar hyd teithiau cylch i’r naill gyfeiriad er mwyn cael golygfeydd newydd."
Gellir gwneud rhannau o rhai o’r teithiau llinellol byrrach.
Darparodd Cadwyn Clwyd gymorth ariannol drwy eu prosiect i ddatblygu Bryniau Clwyd fel pen taith gynaliadwy ar gyfer ymwelwyr, sy’n cael ei gefnogi gan Gynllun Datblygu Cymru Wledig 2007-2013. Ariennir Cynllun Datblygu Cymru Wledig gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Dywedodd Swyddog Prosiect Cadwyn Clwyd, Keira Derbyshire, "Mae’n hyfryd gweld y daflen hon wedi ei hargraffu ac rydym wrth ein bodd y bydd y dreftadaeth hudol, hardd ac amrywiol yng nghoedwigoedd a pharciau gwledig Bryniau Clwyd ac o’u hamgylch,o fewn cyrraedd mwy o’r gymuned leol, ac ymwelwyr hefyd, oherwydd ei gyhoeddi. "
Dywedodd Carolyn Thomas, Cadeirydd Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd, "Bydd y teithiau cerdded hyn yn dechrau o faes parcio cyhoeddus lle mae mwy o wybodaeth ar gyfer ymwelwyr i’w galluogi i brofi harddwch cyflawn yr ardal.
"Yn ogystal, mae llwybrau treftadaeth rhyngweithiol sy’n dod â hanes y bryngaerau lleol yn fyw. Gall ymwelwyr gyrchu pwyntiau sain ar hyd y ffordd drwy ddefnyddio eu ffonau symudol neu lawrlwytho fersiynau mp3 am ddim oddi ar y wefan o flaen llaw"
Mae copïau o’r daflen i’w cael hefyd o Ganolfan Bryniau Clwyd yn Loggerheads www.clwydianrangeaonb.org.uk a chanolfannau croeso lleol.
I lawrlwytho’r llwybrau cerdded sain ewch i www.heatherandhillforts.co.uk.
Pennawd: Teulu’n mwynhau cerdded ar hyd Bryniau Clwyd.
NODIADAU AR GYFER GOLYGYDDION:
Mae tua 14 y cant o Gymru wedi ei gorchuddio gan goetir. O hyn, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n berchen ar 38% (126,000 hectar/311,000 erw).
Comisiwn Coedwigaeth Cymru yw adran goedwigaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ac yn rheoli’r coetiroedd hyn ar ei rhan.
Cefnogir y prosiect hwn gan Asiantaeth Datblygu Gwledig Cadwyn Clwyd
Ariennir y prosiect yn rhannol gan Gynllun Datblygu Gwledig yr UE a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Cyswllt swyddfa’r wasg: Clive Davies ar 0300 068 0061, ffôn symudol 07788 190922, e-bost clive.davies@forestry.gsi.gov.uk neu Rachel Jones e-bost rachel.jones@denbighshire.gov.uk ffôn 01352 811 014.