Newyddion a Digwyddiadau
Newyddion Diweddaraf
2023: Tymor llwyddiannus arall i’r môr-wenoliaid bach!
31.08.2023
Rhaglen Gwirfoddolwyf Ebrill 2019 - Medi 2019
17.05.2019
Tudalen Gweplyfr
Atafaelu beiciau oddi-ar-y-ffordd drwy weithio mewn partneriaeth
Dyddiad: 01.03.2011
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi atafaelu tri o feiciau modur oddi-ar-y-ffordd yn ystod ymgyrch i atal defnydd anghyfreithlon cerbydau oddi-ar-y-ffordd yn Nyffryn Dyfrdwy a’r mynyddoedd o gwmpas.
Yn ddiweddar fe ymunodd swyddogion Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a’r Comisiwn Coedwigaeth â Heddlu Gogledd Cymru i chwilio am gerbydau oddi-ar-y-ffordd anghyfreithlon a oedd yn cael eu defnyddio yn ardal Llangollen a Chorwen.
Mae yna nifer o ffyrdd heb wyneb caled a chulffyrdd yn yr ardal lle caniateir defnyddio cerbydau sydd wedi eu cofrestru ar gyfer ffordd. Mae defnydd y tu hwnt i’r rhwydwaith cyfreithlon yma wedi bod yn broblem am flynyddoedd lawer ar fynyddoedd Llandysilio, Rhiwabon a’r Berwyn, lle mae cynefinoedd sy’n rhyngwladol bwysig wedi eu difrodi’n ddifrifol a’u creithio gan draciau teiars.
Yn ystod yr ymgyrch fe roddwyd rhybuddion gan yr Heddlu ac fe ddarparwyd gwybodaeth ar ddefnydd cyfreithlon beiciau oddi-ar-y-ffordd i bump o feicwyr a oedd wedi crwydro oddi ar lwybr cyfreithlon. Cafodd y beicwyr eu hannog i fwynhau eu hobi’n gyfreithlon ond fe ddywedwyd wrthyn nhw’n bendant iawn y byddai eu beiciau’n cael eu hatafaelu os byddan nhw’n crwydro eto.
Fe ddaliwyd tri o feicwyr hefyd gan swyddogion yr Heddlu wrth iddyn nhw deithio ar hyd ffordd heb wyneb caled yn Nantyr, yn mynd i gyfeiriad Mynyddoedd Gogledd y Berwyn. Roedd y tri’n reidio beiciau heb ddim Treth, MOT nac yswiriant ac fe atafaelwyd eu beiciau a’u towio i ffwrdd. Mae’r tri beiciwr yn wynebu dirwyon trwm gydag erlyniad i ddod.
Dywedodd PC Mark Howell-Walmsley: “Mae defnyddio cerbydau oddi-ar-y-ffordd ar y rhostir yn Nyffryn Dyfrdwy’n broblem rydyn ni’n benderfynol o ddelio â hi. Dylai’r ymgyrch lwyddiannus yma fod yn rhybudd i bobl sy’n ystyried reidio’n anghyfreithlon yma neu yn unrhyw le arall.”
Mae gwibio o gwmpas cefn gwlad sydd wedi’i gwarchod yn gymaint o ymddygiad gwrthgymdeithasol â fandaliaeth drefol, maeddai’r heddlu sy’n defnyddio hofrennydd yr heddlu i ddal troseddwyr ac maen nhw’n rhybuddio y gwnân nhw ddefnyddio holl bwerau’r gyfraith i erlyn.
Dywedodd Swyddog Maes Rhostir Prosiect y Grug a’r Caerau, Cyngor Sir Ddinbych: “Rydyn ni am anfon neges fod yna fannau lle gall pobl fwynhau gyrru oddi-ar-y-ffordd yn gyfreithlon, ymuno â chlybiau a chymryd rhan mewn digwyddiadau neu ddefnyddio’r rhwydwaith o ffyrdd a chulffyrdd sydd ar gael i gerbydau trwyddedig. Rydyn ni hefyd am addysgu a hysbysu beicwyr oddi-ar-y-ffordd ac annog ymddygiad cyfrifol a chyfreithlon. Ond mae defnyddio cerbydau y tu hwnt i’r llwybrau cyfreithlon, heb ganiatâd perchennog y tir, yn anghyfreithlon ac mae’r difrod y mae hyn yn ei achosi yn annerbyniol.”
Mae ymgyrch sydd â’r arwyddeiriau ‘peidiwch gadael cartref hebddo’ wedi bod yn rhedeg am y flwyddyn ddiwethaf ac mae’n annog ffermwyr, cerddwyr ac eraill i gario rhif yr heddlu efo nhw - neu ei roi yn eu ffonau symudol - i adrodd fandaliaid. Gall troseddwyr gael eu dirwyo o hyd at £20,000 a gellir atafaelu eu cerbydau a’u mathru. Rhif yr Heddlu i adrodd fandaliaid ydi 0845 6071002 neu 0845 6071001 ar gyfer yr iaith Gymraeg.
Mae Prosiect Grug a Chaerau Cyngor Sir Ddinbych yn cwmpasu Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd, Bwlch yr Oernant a Mynydd Llandysilio, rhan o Fynyddoedd Rhiwabon/Llandysilio a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Minera ac Ardal Cadwraeth Arbennig Mynyddoedd De Clwyd.
Mae Heddlu Gogledd Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru’n cefnogi’r ymgyrch i’w diogelu.
Mae’r ymgyrch hefyd yn cael cefnogaeth y seren neidio motor-beic beiddgar Jason Rennie - yr Evel Knievel Cymreig - o’r Bwlchgwyn ger Wrecsam, a’r arbenigwr teledu ar fywyd gwyllt, Iolo Williams, yn annog beicwyr oddi-ar-y-ffordd i ymuno â chlybiau cydnabyddedig a defnyddio ardaloedd sydd wedi eu dynodi ar eu cyfer, wrth geisio dal ac erlyn y rheiny sy’n benderfynol o ddefnyddio cerbydau’n anghyfreithlon.
Mae hanner rhostir grugog y byd yn y DU ac yng Nghymru mae 40 y cant ohono wedi ei golli ers yr Ail Ryfel Byd.
Mae Prosiect y Grug a’r Caerau’n datblygu menter £2.3 miliwn ar gyfer gwaith cadwraeth yr ucheldir ac mae wedi derbyn grant o £1.5 miliwn gan Gronfa Treftadaeth y Loteri. I gael mwy o wybodaeth ewch i www.heatherandhillforts.co.uk.
Gellir dilyn cynnydd y prosiect ar Twitter a Facebook drwy ymweld â www.twitter.com/HeatherHillfort neu ymuno â thudalen Facebook cefnogwyr y Grug a’r Caerau.
Nodyn i olygyddion:
Gan ddefnyddio arian a gasglwyd drwy’r Loteri Genedlaethol, mae Cronfa Treftadaeth y Loteri’n cynnal ac yn trawsnewid ystod eang o dreftadaeth er mwyn i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol gymryd rhan ynddyn nhw, iddyn nhw ddysgu oddi wrthyn nhw a’u mwynhau. O amgueddfeydd, parciau a lleoedd hanesyddol i archeoleg, amgylchedd naturiol a thraddodiadau diwylliannol, byddwn yn buddsoddi ym mhob rhan o’n treftadaeth amrywiol. Mae CTL wedi cynorthwyo dros 28,800 o brosiectau gan ddyrannu dros £4.3 biliwn dros y DU, yn cynnwys dros 1,800 o brosiectau sy’n gyfanswm o fwy na £200 miliwn yng Nghymru. I ddarganfod mwy, ewch i www.hlf.org.uk.