Newyddion a Digwyddiadau
Newyddion Diweddaraf
2023: Tymor llwyddiannus arall i’r môr-wenoliaid bach!
31.08.2023
Rhaglen Gwirfoddolwyf Ebrill 2019 - Medi 2019
17.05.2019
Tudalen Gweplyfr
Lerpwl i Loggerheads
Dyddiad: 20.10.2010
Os yw dathliadau Tðr y Jiwbilî wedi tanio eich atgofion eich hun o ymweld â Bryniau Clwyd fe allech fwynhau darllen, ‘Loggerheads to Liverpool’, llyfr atgofus yn dathlu’r clymau agos rhwng Glannau Mersi a Gogledd Cymru sy’n canolbwyntio ar Loggerheads a Bryniau Clwyd.
Am genedlaethau mae pobl Glannau Mersi wedi dod i ogledd-ddwyrain Cymru. Cafodd blant Glannau Mersi loches yma yn ystod blynyddoedd y rhyfel a daeth teuluoedd a phlant diweddarach i ddianc y ddinas ac i fwynhau’r awyr agored. Daeth cenedlaethau o blant ysgol i Golomendy, ‘ysgyfaint Lerpwl’, daeth eraill ar feic neu gyda’r Sgowtiaid a’r Geidiau, ar fysus Crosville, neu gyda’u pebyll a’u carafanau.
Mae rhai o bobl Glannau Mersi wedi dychwelyd i Ogledd Cymru i weithio neu yn eu hymddeoliad ac mae llawer o bobl Cymru wedi symud i Lerpwl i weithio neu astudio.
Mae ‘Loggerheads to Liverpool’ yn archwilio’r cysylltiadau cryf hyn. Roedd y llyfr yn ddiweddglo prosiect blwyddyn o hyd a ysgogwyd gan ddathliadau Prifddinas Diwylliant Ewrop Lerpwl yn 2008. Partneriaeth oedd y prosiect rhwng cwmni cyhoeddi lleol, Alyn Books, ac AHNE Bryniau Clwyd. Derbyniodd Alyn Books gymorth grant o Gronfa Datblygu Cynaliadwy yr AHNE tuag at gynhyrchu’r llyfr.
Mae’r llyfr wedi’i seilio ar atgofion nifer di-rif o drigolion Glannau Mersi a phobl Cymru sydd wedi rhannu eu storïau cyfareddol, sy’n ddigrif yn aml, ac weithiau’n wefreiddiol. Mae wedi’i ddarlunio’n hael gyda chasgliad ardderchog o hen ffotograffau.
Fel rhan o’r broses ymchwil, cynhaliodd yr awdur, Lorna Jenner, a staff o AHNE Bryniau Clwyd sesiynau atgofion yn Lerpwl ac ym Mharc Gwledig Loggerheads.
Gwnaeth David Shiel, Swyddog AHNE, y sylw, ‘Ysgubwyd ni oddi ar ein traed gan yr ymateb. Mynychodd dros 100 o bobl y diwrnod yn Neuadd Sant Siôr, sy’n dangos yn union pa mor gariadus yw’r lle sydd gan Loggerheads a Moel Famau yng nghalonnau cymaint o bobl Glannau Mersi.’
Loggerheads to Liverpool
144 tudalen Pris £11.95
Maint 190mm x 220mm
Cyhoeddwyd gan Alyn Books, ffôn: 01352 741676
e-bost: info@alynbooks.com
Gellir prynu copïau o’r llyfr o Ganolfan Cefn Gwlad Loggerheads, siopau llyfrau lleol neu ar-lein oddi wrth www.moldbookshop.co.uk