Tirweddau Arbennig
Newyddion Diweddaraf
2023: Tymor llwyddiannus arall i’r môr-wenoliaid bach!
31.08.2023
Rhaglen Gwirfoddolwyf Ebrill 2019 - Medi 2019
17.05.2019
Tudalen Gweplyfr
Tirwedd Hanesyddol
Effaith miloedd o flynyddoedd o ddylanwad pobl yw’r hyn a welwn o’n cwmpas. Bu ffermio, adeiladu treflannau, cloddio am fwynau gwerthfawr ac am gerrig i gyd yn ffurfio’r tirweddau cyfarwydd a welwn heddiw ac yn cyfrannu at gyfoeth diwylliannol yr ardal a’r hynodrwydd lleol.
Bu pobl yn byw ac yn gweithio yn Sir Ddinbych ers o leiaf 250,000 CC. Yn wir, mae ymddangosiad y dirwedd heddiw yn ganlyniad i’r ffordd mae pobl wedi rheoli’u cynefin ar gyfer ffermio, cynhaliaeth, echdyniadau, trawsgludiaeth a hamdden ers dros 5000 o flynyddoedd efallai.
Y mae tystiolaeth o bobl yn symud i mewn i’r ardal yn ystod cyfnodau cynnes ac yna o tua 10,000CC, symudwyd helwyr gasg;wyr i mewn i’r ardal yn fwy parhaol. I ddechrau yr oeddent yn symud o gwmpas y tirlun, yn dilyn y tymhorau ac yr anifeiliaid yr oeddent yn ei hela, gan adael eu hoffer yn llefydd megis Prestatyn, Brenig a ochrau Dinbych.
O gwmpas 3000CC dechreuodd pobl I ffarmio a datblygu aneddiadau a ffermydd. Ni does llawer o dystiolaeth am hyn yn yr ardal, ond darganfyddwyd tŷ Neolithic (Oes y Cerrig newydd) ar safle fryngaer Moel y Gaer, Rhosesmor yn Sir y Fflint. Mae cofebion megis Gop Carin yn Nhremeirchion yn dyddio o bosibl i’r Neolithig.
Erbyn 2000CC dechreuodd pobl i ddefnyddio metel yn ogystal â defnyddiau eraill fel pren a charreg. Ni does llawer o dystiolaeth o ble y bu y pobl hyn fyw, ond mae llawer o dystiolaeth o fannau claddu. Gwelir engreifftiau da o’r rhain ar y Llwybr Archeolegol yn Llyn Brenig ond mae yna engreifftiau hefyd ym Mryniau Clwyd a Mynyddoedd Llandysilio. Ceir nifer o gofebion claddu Oes yr Efydd ar Fryniau Clwyd, yn dyddio o tua 2,000 i 800 CC. Ychydig o dystiolaeth sydd o anheddau, ond efallai y byddai pobl Oes yr Efydd yn defnyddio safleoedd y bryngaerau a ddaeth wedyn, fel awgryma darganfyddiad cronfa o fwyeill Oes yr Efydd ar Foel Arthur, a cheir gweithgareddau o’r fath ger Moel y Gaer, Rhosesmor.
Unwaith i bobl berffeithio smeltio efydd a chopor, datblygodd y dechnoleg a defnyddwyd haearn. Mae haearn angen tymheredd llawer uwch i doddi. Y mae y wybodaeth sydd gennym am Oes yr Haearn yn dyddio o 800CC i 43OC yn i’r gwrthwyneb i yr Oes Efydd. Y mae yna fryngaerau ar nifer o’r bryniau ym Mryniau Clwyd a Mynyddoedd Llandysilio, ond nid oes dim gwybodaeth am beth digwyddodd i bobl wedi iddynt farw. Y mae rhai o’r bryngaerau yn enfawr, fel Penycloddiau ac eraill yn llai, megis Moel Arthur a Moel y Gaer, Llandysilio. Y meant yn dominyddu y tirlun nawr fel yn y gorffennol. Yr oedd eu bwriad yn amddiffynnol ac fel safle arddangos yn amrywio o ganolfannau rheoli tiriogaeth o’r bryniau i’r dyffrynnoedd, i llefydd i gasglu y tylwyth, i borfa haf neu safleoedd ar gyfer defod.
Dyddia llawer o’r patrymau tirwedd a welwn heddiw – pentrefi a ffermydd anghysbell – o’r cyfnod Canol Oesol. Saif eglwysi canol oesol mewn nifer o’r pentrefi o fewn yn Sir Ddinbych. Yn ardaloedd cyfagos Dinbych a Rhuthun, codwyd cestyll yn amser Edward 1 er mwyn i Saeson reoli tir Cymru.
Mewn amseroedd mwy diweddar mae’r ardal wedi gweld datblygiad stadau gan gynnwys Golden Grove, Llandysilio, Rug a Cholomendy. Mae y rhain wedi datblygu yn dilyn cyfoeth yn deillio o ddiwydiannau lleol yn ffynnu, yn enwedig gwaith plwm, a chwareli llechi yn ogystal â chrochenwaith a gwneud briciau, ac mae gweddillion sylweddol o’r geithfeydd chwarel i’w canfod ar hyd y Sir.
Drwy yr holl Sir roedd dŵr yn cael ei ffrwyno i gyflenwi grym ar gyfer cloddio am blwm, ar yr Afon Alun yn benodol. Defnyddiwyd yr Afon Chwiler i yrru’r melinau ŷd, gweithfeydd tin, melinau papur a melinau coed. Ar yr adeg yma fe ddechreuodd trafnidiaeth o fewn Ardal Bryniau Clwyd newid. Yn raddol, daeth cyfnod y rhwydwaith o lwybrau ar draws y Bryniau i ben, ac yn eu lle defnyddid mwy a mwy o foduron. Datblygwyd rheilffyrdd a gwellwyd ffyrdd megis yr A5 yn sylweddol.