Newyddion a Digwyddiadau
Newyddion Diweddaraf
2023: Tymor llwyddiannus arall i’r môr-wenoliaid bach!
31.08.2023
Rhaglen Gwirfoddolwyf Ebrill 2019 - Medi 2019
17.05.2019
Tudalen Gweplyfr
Newyddion diweddar
Ar hyn o bryd ceir 59 stori.
Cystadleuaeth Ffotograffig Cymuned Corwen
05.11.2012
Mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy’n cynnal cystadleuaeth ffotograffig yn ardal Corwen. Y nod ydi i blant ac oedolion ddod allan yr hydref hwn i gipio delweddau sy’n adlewyrchu cymeriad a harddwch eu hardal leol. Bob wythnos, yn dechrau ar Hydref 26ain, fe roddir 2 bwnc ar ein gwefannau (www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk a www.denbighshirecountryside.org.uk) ac fe hysbysir ysgolion yn yr ardal. Ar ddiwedd pob wythnos, fe ddewisir y delweddau gorau ac fe gân nhw eu harddangos ar oriel ar y gwefannau. Bydd y gystadleuaeth yn rhedeg am 6 wythnos, ac fe gaiff y ffotograffau gorau eu troi’n gardiau post.
Pethau rhyfedd ym Mhen y Pigyn!
31.10.2012
Roedd pethau rhyfedd i’w gweld nos Lun yng Nghorwen, ac, yn ffodus, roedd artistiaid lleol Ben Davis a Jude Wood yno i’w cofnodi. . Roedd ysbrydion, ystlumod enfawr a gwrachod ymysg y bwganod brawychus.
Adroddwch Ddamweiniau Dyfrgwn ar y Ffyrdd
26.10.2012
Y dyfrgi ydi un o’r rhywogaethau mwyaf carismatig yng nghefn gwlad Cymru. Mae cael cipolwg ar y mamal celgar yma’n bleser go iawn. Ond yr hyn sy’n drist ydi y byddwch chi’n fwy tebygol o weld un wedi marw ar ffordd nag ar afon.
Datgelu Bryniau Clwyd
16.07.2012
Datgelu Bryniau Clwyd