Newyddion a Digwyddiadau
Newyddion Diweddaraf
2023: Tymor llwyddiannus arall i’r môr-wenoliaid bach!
31.08.2023
Rhaglen Gwirfoddolwyf Ebrill 2019 - Medi 2019
17.05.2019
Tudalen Gweplyfr
Newyddion diweddar
Ar hyn o bryd ceir 59 stori.
Gweld morlo yn Rhuddlan!
16.01.2013
Gwelwyd morlo yn Afon Clwyd yn Rhuddlan yn Sir Ddinbych. Roedd yr anifail, un ifanc yn ôl pob tebyg, wedi nofio rhyw ddwy filltir i fyny’r afon o’r aber yn y Rhyl.
Gofalu am Fywyd Gwyllt yn Ystod y Gaeaf Yma
20.12.2012
Mae gerddi yn hollbwysig ar gyfer llawer o’n bywyd gwyllt yn ystod y gaeaf, a gydol y flwyddyn hefyd. Mae gardd, mewn lle bach, yn debyg i amrywiol gynefinoedd yng nghefn gwlad ehangach ac yn darparu bwyd a lloches i nifer o rywogaethau.
Cynffon Sidan yn Heidio i Rhuddlan
06.12.2012
Mae cynffon sidan yn heidio i Brydain i chwilio am fwyd. Mae’r adar bychan hyfryd yma’n ymfudo o Sgandinafia lle byddan nhw’n bridio, pan fydd yr aeron y maen nhw’n eu bwyta’n prinhau. Mae 2012 wedi bod yn flwyddyn anarferol o ran tywydd - ac mae hyn wedi cyfrannu tuag at fethiant ffrwytho yn Sgandinafia gan orfodi’r adar i ddod drosodd i’n glannau ni. Gellir eu hadnabod oddi wrth eu crib amlwg, pluf browngoch a mwgwd du dros eu llygaid. Mae’r gynffon â phen melyn ac mae’r adenydd â rhywfaint o batrwm melyn a gwyn.
Cylchlythyr Bioamrywiaeth Diweddaraf ar gael i'w Dadlwytho
29.11.2012
Mae rhifyn diweddaraf cylchlythyr Rhwydwaith Bioamrywiaeth Gogledd-ddwyrain Cymru bellach ar gael i’w lwytho i lawr o adran bioamrywiaeth y wefan hon. Cynhyrchir y cylchlythyr hwn gan swyddogion bioamrywiaeth yn Sir Ddinbych, Conwy, Sir y Fflint a Wrecsam bob chwe mis.