Navigation

Content

Llwybr Prestatyn – Diserth

Mae’r daith 2 ½ filltir hon yn dilyn hen lein fach y rheilffordd. Fe’i hadeiladwyd yn wreiddiol i wasanaethu’r mwyngloddiau a’r chwareli yn y bryniau cyfagos gan fod plwm, sinc, arian a chalchfaen wedi’u cloddio yn yr ardal am ganrifoedd. Am gyfnod byr, bu’r rheilffordd hefyd yn cludo teithwyr, gydag un ar bymtheg o drenau teithwyr y dydd yn defnyddio’r lein ar ei hanterth. Daeth hyn i ben ym 1930 oherwydd cystadleuaeth gan gwmnïau bysiau ac wedi 104 o flynyddoedd o ddefnydd, fe adawodd y trên llwythi olaf Chwarel Diserth ac fe gaeodd y lein ym 1973. 

Footer

Gwnaed gan Splinter