Navigation

Content

Cae Ddol

Lleolir Parc Cae Ddol yn union oddi ar Stryd Fawr Rhuthun, gyferbyn â’r Hen Garchar. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, fe addaswyd y pwllyn a chafodd rhannau eraill eu gwella ar gyfer adar sy’n nythu. Mae gan y parc hefyd lwybr heini ar hyd yr ymylon, cyfarpar chwarae i blant a pharc sglefrio.

Mae modd dilyn dau lwybr o’r maes parcio. Mae’r llwybr byrrach yn cynnwys y pwllyn ac yn cadw at lwybrau pendant, clir. Mae’r ‘dro’ hirach yn cynnwys y llwybr yn ei gyfanrwydd ac mewn mannau yn croesi’r parcdir gwelltog.

Footer

Gwnaed gan Splinter