Navigation

Content

Llwybr Arfordir Cymru

Lansiwyd ar Fai 5ed., 2012, Llwybr Arfordir Cymru ydi’r llwybr cyntaf o’i fath yn y byd, yn cwmpasu'r 877 milltir o arfordir Cymru yn ei gyfanrwydd mewn un llwybr di-dor.

Mae rhan Sir Ddinbych yn 7 milltir / 11 cilomedr o hyd rhwng Gronant a’r Rhyl. Mae cwrs y daith a fapiwyd yma fymryn yn wahanol i lwybr yr arfordir, gan ddilyn llwybr Beicio Cenedlaethol rhif 5 rhwng Gronant a thraeth Barkby, gan ganiatáu taith linellol 7 milltir / 11cilomedr ar arwyneb o  darmac llyfn a choncrid.    

Yn hytrach na dilyn y llwybr beicio trwy gwrs golff Prestatyn, gellir dilyn Llwybr Arfordir Cymru sy’n eich cyfeirio trwy Warchodfa Natur Twyni Gronant at draeth Barkby. Tywod meddal ydi arwyneb y llwybr ar hyd y rhan hon, gydag ambell adran serth o lwybrau bordiau pren.

Footer

Gwnaed gan Splinter