Navigation

Content

Mehefin Newyddion Cefn Gwlad

Dyddiad: 25.06.2014

Croeso i’n newyddlen yn arddangos gwaith Gwasanaeth Cefn Gwlad a Gwasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych a’n partneriaid a’n gwirfoddolwyr hyfryd.

Mae cyfres o fideos ar gael ar sianel Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ar VIMEO.

O straeon y trochwyr a’r  gwiberod yn Sir Ddinbych Gudd i animeiddiad bryngaer a Thðr y Jiwbilî, mae’r adnoddau gwych hyn yn dod â’n tirwedd yn fyw. https://vimeo.com/channels/669687

Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy – Yr Ymosodiad. Ymunwch â ni am fis o Frwydro’r Ffromlys o ddydd Gwener 27 Mehefin ar hyd yr Afon Ddyfrdwy.  Edrychwch ar dudalen Facebook BigDeeDayTheInvasion neu ffoniwch 01352 755472.

Baton y Frenhines ar gyfer Gemau’r Gymanwlad yn ymweld â dau Safle Cefn Gwlad

Glan Morfa / Marsh Tracks, y Rhyl a Pharc Gwledig Moel Famau, oedd y ddau safle cefn gwlad gwych a groesawodd Taith Gyfnewid Baton y Frenhines ar gyfer Gemau’r Gymanwlad Glasgow 2014.

Mae ymweliad y Baton yn cydnabod cyfraniad y mae cefn gwlad a’r awyr agored yn ei wneud at iechyd a lles unigolion ac yn cadw pobl yn heini.

“Roedd yn wych gweld y rhai sydd wedi ymroi cymaint o amser o’u gwirfodd i warchod cefn gwlad, hyrwyddo mynediad a galluogi eraill i fwynhau’r awyr agored, yn cael yr anrhydedd o gludo’r baton.  Diolch yn fawr iawn i bawb sy’n cynorthwyo i ofalu am y mannau arbennig hyn, a hefyd yn annog pobl i’w mwynhau, mae’n bleser gweithio gyda chi.”

I gael manylion ein holl ddigwyddiadau, gweithgareddau a digwyddiadau ein partneriaid defnyddiwch y ddolen hon. Countryside Events & Activities

Roedd y Diwrnod Rhufeinig, rhan o Ðyl Gerdded Prestatyn – gyda’r tywydd braf- yn rhoi cyfle i bobl ddysgu am hanes Rhufeinig y dref.  Yn ystod y dydd bu milwr Rhufeinig yn tywys 400 o ymwelwyr i adfeilion y Baddondy Rhufeinig lle yr oedd yr Archeolegydd Fiona Gale yn darparu taith o amgylch y safle ac yn dangos rhai o’r arteffactau a gloddiwyd yno; crochenwaith Rhufeinig o Ffrainc, teils a wnaed yn Holt ar yr Afon Ddyfrdwy a’r gleiniau gwydr hyfryd.

Roedd LOGGFEST 2014 yn llwyddiant mawr gyda channoedd o bobl yn mwynhau’r stondinau, y bwyd, y gerddoriaeth a’r gweithgareddau teuluol am ddim, nifer ohonynt yn cael eu darparu gan Dîm Bioamrywiaeth Gogledd Ddwyrain Cymru.  Bydd yr ðyl yn hyd yn oed yn well y flwyddyn nesaf – rhowch y dyddiad yn eich dyddiadur 5-7 Mehefin 2015.

Mentrwch i Nyth yr Hebog. Bydd ardal chwarae newydd yng Nghoed Moel Famau yn denu’r bobl ifanc sy’n anturwyr.  Mae hyn yn ychwanegu at amrywiaeth dda o weithgareddau ar gyfer y teulu cyfan.  Rhowch gynnig ar y Llwybr Mynediad i Bawb, Llwybr Pos Anifeiliaid, Llwybr Rhifedd ar gyfer ysgolion neu ewch i’r ardd goed i weld holl rywogaethau coed y DU.

Noson yn yr Amgueddfa

Roedd Carchar Rhuthun yn drydydd yng nghystadleuaeth Noson yn yr Amgueddfa ar gyfer Gogledd Cymru.  Gyda’u tedis yn eu breichiau, cyrhaeddodd plant chwilfrydig yn eu pyjamas i wrando ar Straeon Amser Gwely yn y carchar. Roedd y digwyddiad yn llawn ac roedd pawb wedi mwynhau.  Cadwch olwg am ddigwyddiad y flwyddyn nesaf os ydych chi’n ddigon dewr.....

Er ein bod yn mwynhau’r haul tanbaid yn awr, roedd y tywydd gwlyb wedi cynorthwyo’r Carchar yn ystod hanner tymor.  “Ddydd Mercher cafwyd y nifer mwyaf yn ymweld mewn un diwrnod erioed. Nid oeddem erioed wedi gweld y carchar mor brysur”.

Dydd Sadwrn 28 Mehefin Picnic Band Arian, Plas Newydd. Llangollen. 3pm

Dydd Llun 7 Gorffennaf Cyflwyniad i Gerdded Nordig Loggerheads 10am

Dydd Mercher 9 Gorffennaf Taith Gerdded Rheilffordd, Trefor 10am

Dydd Sadwrn 12 – Dydd Sul 13 Penwythnos Canoloesol Loggerheads.

Dydd Sul 13 As You Like It Theatr y Promenâd, Loggerheads http://www.takingflighttheatre.co.uk

Yn y mis nesaf......

Cewch wybod am ddatblygiadau cyffrous yn Grîn Llantysilio; digwyddiadau gwyliau’r haf; pwy enillodd y bowlio, y gwasanaeth cefn gwlad neu wasanaeth treftadaeth?!

Visit our website or facebook for more information

Footer

Gwnaed gan Splinter