Navigation

Content

Wythnos Bioamrywiaeth Cymru 2014

Dyddiad: 05.06.2014

Math: Bioamrywiaeth

Mae Wythnos Bioamrywiaeth Cymru yn rhedeg rhwng dydd Sadwrn 7 Mehefin a dydd Sul 15 Mehefin. Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol eraill fel rhan o Rwydwaith Bioamrywiaeth Gogledd Ddwyrain Cymru i drefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau yn rhad ac am ddim i blant ac oedolion.

Mae llawer yn mynd ymlaen yngNgogledd Ddwyrain Cymru eleni ac mae gennym wythnos lawn o weithgareddau bywyd gwyllt i bobl gymryd rhan ynddynt! Dyma fanylion digwyddiadau’r wythnos:

Dyddiad
Digwyddiad
Gwybodaeth Bellach
6 – 8 Mehefin
Loggfest, Loggerheads, Sir Ddinbych
9 Mehefin
Helfa pryfetach ar ôl ysgol, Parc Gwledig Loggerheads Sir Ddinbych
Am ragor  o wybodaeth neu i archebu lle ffoniwch 01352 810586
10 Mehefin
Safari Nos yng Nghoed y Nant 8-10:30pm (o gwmpas hynny), Sir Ddinbych
Cyfarfod ym maes parcio Stryd y Farchnad, Llangollen.
Am ragor  o wybodaeth neu i archebu lle ffoniwch 01352 810586
11 Mehefin
Taith gerdded blodau gwyllt, Minera, 10am-12pm, Wrecsam
Cyfarfod ym maes parcio Parc Gwledig Minera SJ272511
12 Mehefin
Bywyd y Nos yn Nercwys, 8.30-11pm, Sir y Fflint
Am ragor  o wybodaeth neu i archebu lle ffoniwch 01352 810586
14 Mehefin
Diwrnod Llawn Hwyl i’r Teulu, 10am-3pm, Plas Newydd, Llangollen, Sir Ddinbych
Galw heibio
15 Mehefin
Diwrnod Hwyl ar gyfer Peillio a theithiau cerdded i weld bywyd gwyllt ym Mharc Wepre, Sir y Fflint
Gwybodaeth bellach 01352 703263
Galwch heibio rhwng 10am a 3pm

Wythnos Bioamrywiaeth Cymru

Footer

Gwnaed gan Splinter