Newyddion a Digwyddiadau
Newyddion Diweddaraf
2023: Tymor llwyddiannus arall i’r môr-wenoliaid bach!
31.08.2023
Rhaglen Gwirfoddolwyf Ebrill 2019 - Medi 2019
17.05.2019
Tudalen Gweplyfr
Newyddion diweddar
Ar hyn o bryd ceir 59 stori.
Gweithio mewn partneriaeth i hybu llosgi dan reolaeth yn ddiogel
23.02.2012
Mae diffoddwyr tân yn gweithio mewn partneriaeth gydag arbenigwyr cadwraeth i wneud yn siðr bod ffermwyr ym Mryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn llosgi dan reolaeth yn ddiogel ac effeithiol er mwyn helpu i amddiffyn a diogelu'r dirwedd.
Rhostir wedi ei ddifetha
21.02.2012
Mae staff Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych wedi beirniadu grðp o unigolion a achosodd ddifrod i’r rhostir uwchlaw Dyffryn Dyfrdwy drwy yrru cerbydau 4x4 yno’n ddi-hid heb ganiatâd.
Arolygon yr hydref – y pathew
21.11.2011
Mae’n adeg yna o’r flwyddyn eto, y dail yn disgyn, y tymheredd yn disgyn ac mae arolygon y pathew ar y gweill. Cafodd y pathew gwrywaidd cysglyd hwn ei ddarganfod mewn coetir ger Clocaenog yr hydref hwn. Mae'n un o nifer o'r pathew sy'n gwneud defnydd da o'r bocsys nythod a osodwyd fel rhan o Brosiect Pathew Gogledd Cymru.
Cylchlythyr Bioamrywiaeth
04.11.2011
Mae rhifyn diweddaraf cylchlythyr Rhwydwaith Bioamrywiaeth Gogledd-ddwyrain Cymru bellach ar gael i’w lwytho i lawr o adran bioamrywiaeth y wefan hon. Cynhyrchir y cylchlythyr hwn gan swyddogion bioamrywiaeth yn Sir Ddinbych, Conwy, Sir y Fflint a Wrecsam bob chwe mis. Mae erthyglau am y wefan iSpot sy’n cynnig ffordd newydd arloesol o adnabod bywyd gwyllt, ynglþn â draenogod yng Ngogledd-ddwyrain Cymru a sut i helpu bywyd gwyllt eich gardd dros y gaeaf.