Newyddion a Digwyddiadau
Newyddion Diweddaraf
2023: Tymor llwyddiannus arall i’r môr-wenoliaid bach!
31.08.2023
Rhaglen Gwirfoddolwyf Ebrill 2019 - Medi 2019
17.05.2019
Tudalen Gweplyfr
Newyddion diweddar
Ar hyn o bryd ceir 59 stori.
Diogelu adar sy'n nythu: peidiwch â thorri'r gyfraith!
29.03.2012
Mae’r tymor nythu ar fin dechrau, pan fydd adar yn brysur yn adeiladu eu nythod, yn deori eu hwyau ac yn bwydo’u cywion. Mae camddealltwriaeth cyffredin yn ymwneud â’r gyfraith ac adar sy’n nythu. Mae’n werth sicrhau’ch bod yn deall y gyfraith, gan mai uchafswm y gosb ei gellir ei phennu am drosedd yn ymwneud ag aderyn, yw dirwy o £5,000, a/neu gyfnod o 6 mis yn y carchar. Felly, os oes chwe wy mewn nyth, gallai hynny fod yn ddirwy o £35,000.
Perllannau Traddodiadol yng Nghymru: Galw am Wirfoddolwyr
19.03.2012
Roeddynt unwaith yn gyffredin yng nghefn gwlad Prydain, ond mae perllannau nawr wedi mynd yn brin ac wedi eu rhestru fel cynefin flaenoriaeth ar gyfer cadwraeth. Ers diwedd y llynedd, mae Prosiect Adennill Perllannau Gogledd-ddwyrain Cymru wedi bod yn gweithio i blannu ac adfer perllannau yng Ngogledd-ddwyrain Cymru. Arweinir y prosiect gan Gyngor Sir y Fflint ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru, gyda chefnogaeth gan Gyngor Sir Ddinbych a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Yn Sir Ddinbych, mae perllannau newydd wedi eu plannu ar bump o’n Safleoedd Cefn Gwlad. Cynhaliwyd Gweithdy Rheoli Perllannau ar 10 Mawrth i addysgu perchnogion perllannau newydd a rhai sy’n bodoli eisoes yn y technegau sydd eu hangen i reoli perllan yn llwyddiannus.
Ystlum Trwyn Pedol Lleiaf
07.03.2012
Ar safle'r wefan bioamrywiaeth, gallwch rwan weld fideo o ystlumod trwyn pedol lleiaf. Mae’r gytref yma yn defnyddio’r glwydfan hon ym Mhlas Bodidris pob blwyddyn. Mae’r ffilm sy’n cael ei recordio yno yn cael ei ddadansoddi i wella ein deallwriaeth o’r ystlum trwyn pedol lleiaf. Mae’r ystlum yma yn un o’r lleiaf o rywogaethau ystlumod Prydain. Mae’n pwyso rhwng 5 a 9g, ac mae hyd y corff rhwng 35 a 45mm. Mae ganddo siap trwyn cymhleth i helpu gyda’r system ecoleoliad fanwl. Cliciwch yma i weld y fideo!
Castell Dinas Brân
07.03.2012
Eleni bydd staff o Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy’n taclo’r broblem gynyddol o wersylla a sbwriel ar y “Grempogen” ar Gastell Dinas Brân. Yn y blynyddoedd diweddar, mae nifer y partïon dros nos a gynhelir yma wedi cynyddu’n ddramatig, ac mae’r sbwriel a adewir yn hawlio mwy a mwy o adnoddau gan dîm yr AHNE, gweithwyr y Cyngor a phreswylwyr lleol.