Navigation

Content

Fforwm Mynediad Lleol Sir Ddinbych

Beth yw’r Fforwm Mynediad Lleol?

Ffurfiwyd Fforymau Mynediad Lleol o dan Adran 94 y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy (2000). Maent yn gyrff statudol sy’n darparu cyngor ar wella mynediad cyhoeddus i dir a dŵr er dibenion hamddena awyr agored a mwynhau’r ardal. 

Yn ogystal ag ystyried anghenion rheoli’r tir a gwarchod harddwch naturiol yr ardal, gall y Fforymau roi cyngor ar gysylltiadau rhwng gwell mynediad â’r buddion ehangach cysylltiol. Mae’r rhain yn cynnwys gwell ansawdd bywyd yn gyffredinol megis iechyd a buddion cymdeithasol, yn ogystal â thrafnidiaeth gynaliadwy, twristiaeth, yr economi a hygyrchedd.

 

Cysylltu â’r Fforwm 

Gellir cysylltu â Fforwm Mynediad Lleol Sir Ddinbych trwy’r ysgrifennydd:

 

Mr Adrian Walls

Fforwm Mynediad Lleol Sir Ddinbych

Cyngor Sir Ddinbych

Caledfryn

Ffordd Smithfield

Dinbych

LL16 3RJ

Ffôn: 01824 706871

Ebost: laf@sirddinbych.gov.uk

 

Aelodau Fforwm Mynediad Lleol Sir Ddinbych

Mae gan Fforwm Mynediad Lleol Sir Ddinbych 13 aelod; 12 aelod wedi eu hapwyntio ac un cynrychiolydd o’r awdurdod apwyntio.

Cynrychiola’r aelodau sydd wedi eu hapwyntio gydbwysedd o ddiddordebau gan gynnwys tirfeddianwyr neu reolwyr (sydd â thir mynediad neu dir y mae gan y cyhoedd yr hawl i’w groesi); grwpiau defnyddio; a’r rheiny gyda sgiliau neu ddiddordebau sy’n berthnasol yn benodol i Sir Ddinbych, megis coedwigaeth a thwristiaeth. 

Mae gan aelodau’r Fforwm dymor o dair blynedd cyn yr ail-apwyntir y fforwm, er gall aelodau wasanaethau am ail dymor.  Etholwyd y mwyafrif o aelodau'r tymor hwn ym mis Mehefin 2010.

Cyfarfodydd Fforwm Mynediad Lleol Sir Ddinbych

Mae’n ofynnol i Fforwm Mynediad Lleol Sir Ddinbych gwrdd o leiaf ddwywaith y flwyddyn. Mae’r cyfarfodydd yn agored i’r cyhoedd, ond gellir eu cau yn ôl disgresiwn y Fforwm.  Efallai na fyddai yn bosib codi mater yn bersonol ond gellir gwneud hynny yn ôl disgresiwn Cadeirydd y Fforwm.  Mae pob cyfarfod yn cynnwys trafodaeth ar brosiectau arfaethedig a gweithiau sy’n berthnasol i waith y Fforwm, diweddariadau ar brosiectau presennol, ac ymweliad safle i leoliadau sydd o ddiddordeb i’r Fforwm. 

 

Bydd cofnodion cyfarfodydd diweddar, adroddiadau blynyddol a dyddiadau ac agendâu cyfarfodydd y dyfodol yn cael eu cofnodi yma cyn gynted ag y bo modd. Ni fydd cofnodion ar gael nes eu bod wedi eu cytuno yng nghyfarfod nesaf y Fforwm.

 

Mae cofnodion ac agendâu cyfarfodydd hŷn ar gael gan yr ysgrifennydd.

 

Dogfennau Fforwm Mynediad Lleol Sir Ddinbych

Pamffled Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar Fforymau Mynediad Lleol yng Nghymru

Download

Fforwm Mynediad Lleol 25-06-2010

Download

Fforwm Mynediad Lleol 22-10-2010

Download

Fforwm Mynediad Lleol 04-02-2011

Download

Fforwm Mynediad Lleol 07-04-2011

Download

Fforwm Mynediad Lleol 26-07-2011

Download

Fforwm Mynediad Lleol 03-11-2011

Download

Fforwm Mynediad Lleol 08-02-2012

Download

Footer

Gwnaed gan Splinter