Navigation

Content

Datgelu Bryniau Clwyd

Datgelu Bryniau Clwyd

Fe gewch eich cludo dros dirweddau arbennig Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn ein hystafell sydd wedi ei hailwampio ac sydd i’w datgelu ar ddydd Llun, Mai 14eg ym Mharc Gwledig Loggerheads.

Mae’r cyfleuster newydd hwn ym Mharc Gwledig Loggerheads wedi ei ddylunio i arddangos yr archif o adnoddau sain a gweledol a gasglwyd dros y blynyddoedd a bydd yn rhoi cyfle i ymwelwyr gael golwg ar y gorffennol, y presennol a straeon am ein tirwedd anhygoel.

Mae’r defnyddiau sydd ar gael i’w gweld yn cynnwys Ffilmiau Crawford: ffilmiau sine sy’n rhoi mewnwelediad rhyfeddol i fywyd gwledig yn y 1940au a’r 1950s. Mae Richard Davies, ŵyr y melinydd olaf ym Mharc Gwledig Loggerheads yn rhannu ei atgofion o’r Parc ac mae ffilm ‘hedfan drosodd’ ardderchog yn dweud hanes ein tirwedd eithriadol.

family

Mae’r prosiect wedi cael cefnogaeth Cynllun Partneriaeth Tirwedd Treftadaeth y Loteri a Phrosiect Cymunedau a Natur Cyngor Cefn Gwlad Cymru.

Dywedodd Erin Robinson, Swyddog Cyfranogiad Cymunedol Prosiect y Grug a’r Caerau: “Rydyn ni’n falch o gyhoeddi lansio’r ystafell yma i ganiatáu cyrchiad i’r ffilmiau a’r ffeiliau sain rhyfeddol yma sydd gennym ni yn yr archif.  Bydd yr adnodd newydd yma’n gwella’r profiad o ymweld â Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy er mwyn uchafu mwynhad a dealltwriaeth yr ymwelydd o’r dirwedd arbennig yma.’

Mae Prosiect pum mlynedd y Grug a’r Caerau’n datblygu menter £2.3 miliwn ar gyfer gwaith cadwraeth yr ucheldir ac mae wedi derbyn grant o £1.5 miliwn o Gronfa Treftadaeth y Loteri.  I gael gwybodaeth bellach ewch i: heatherandhillforts.co.uk.

Mae Cymunedau a Natur (CAN) yn brosiect strategol dan  Thema Amgylchedd ar gyfer Twf y Cynllun Cydgyfeirio ac fe gaiff ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.  Caiff CAN ei arwain a’i reoli gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru.

sensitive

1.        Prosiect strategol sy’n werth £1.45m ydi Cymunedau a Natur sydd wedi ei ddatblygu a’i reoli gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru, ac fe gaiff ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.  Ei nod ydi defnyddio ein hamgylchedd naturiol yng Nghymru i greu cyfleoedd economaidd drwy hamdden a thwristiaeth - darparu swyddi cynaliadwy mewn ardaloedd a chymunedau lle mae eu hangen.  I gael mwy o wybodaeth ewch i
<http://www.ccw.gov.uk/enjoying-the-country/communities-and-nature.aspx>.

2.        Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd: mae Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop yr UE yn rhan o raglenni Cronfeydd Strwythurol 2007-2013 sy’n werth £3.4bn gyda’r nod o greu gwelliannau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol i bobl, busnes a chymunedau ledled Cymru.  I gael mwy o wybodaeth ewch i www.wefo.wales.gov.uk <http://www.wefo.wales.gov.uk>

3.        Gan ddefnyddio arian a gasglwyd drwy’r Loteri Genedlaethol, mae Cronfa Treftadaeth y Loteri’n cynnal ac yn trawsnewid ystod eang o dreftadaeth er mwyn i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol gymryd rhan ynddyn nhw, iddyn nhw ddysgu oddi wrthyn nhw a’u mwynhau.  O amgueddfeydd, parciau a lleoedd hanesyddol i archeoleg, amgylchedd naturiol a thraddodiadau diwylliannol, byddwn yn buddsoddi ym mhob rhan o’n treftadaeth amrywiol.  Mae CTL wedi cynorthwyo dros 30,800 o brosiectau gan ddyrannu dros £4.5 biliwn dros y DU, yn cynnwys dros 1,900 o brosiectau sy’n gyfanswm o fwy na £224 miliwn yng Nghymru.  I ddarganfod mwy, ewch i www.hlf.org.uk

Footer

Gwnaed gan Splinter