Navigation

Content

Ystlumod Pedol Lleiaf Nantclwyd yn Serennu

Dyddiad: 22.05.2015

Math: Bioamrywiaeth

Mae Nantclwyd y Dre yn dþ tref pren hanesyddol yn Rhuthun, a reolir gan ein cydweithwyr yng Ngwasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych. Mae’r adeilad yn gartref i gyfoeth o hanes yn ogystal â chlwyd o ystlumod pedol lleiaf. Ystlumod benywaidd a geir yma, sy’n dychwelyd i’r atig pob gwanwyn a haf i roi genedigaeth a magu eu hystlumod bychain. Mae’r ystlum pedol lleiaf yn un o'r rhywogaethau ystlumod prinnaf ym Mhrydain, felly rydym ni’n hynod ffodus o’u gweld yn clwydo yma yng nghanol Rhuthun.

Ystlum pedol lleiaf [Mike Castle]Eleni, mae'r ystlumod yn sêr ffilm wrth iddyn nhw gael eu ffilmio 24 awr y dydd gan gamerâu is-goch y tu mewn i'w clwyd! Diolch i arian gan Sw Caer rydym ni wedi gosod system gamera, monitro ac offer recordio newydd er mwyn i aelodau o'r cyhoedd a gwyddonwyr fel ei gilydd ddysgu mwy am y creaduriaid diddorol yma.

Bydd ymwelwyr Nantclwyd y Dre yn gallu gweld fideos byw o'r ystlumod pan fydd y tþ ar agor (Ebrill - Medi) a’u gwylio y tu mewn i'w clwyd – os ydych chi’n ddigon ffodus, efallai y byddwch chi’n gweld ystlumod bychain yn cael eu geni, yn cael llaeth gan y fam neu’n dysgu sut i hedfan. Mae'r offer newydd, gan gynnwys y camerâu manylder uwch lluosog, yn disodli’r camera sengl a oedd wedi bod yn y tþ ers bron i ddeng mlynedd. Rydym ni’n gobeithio y bydd yr ymwelwyr yn mwynhau'r gwelliannau!

Am y tro cyntaf rydym ni hefyd yn gallu dod â lluniau byw i gynulleidfa ar-lein, trwy wefan Sw Caer (yn Saesneg), diolch i nawdd gan NW Systems Group. Felly hyd yn oed os nad ydych chi’n gallu ymweld â Nantclwyd yn bersonol, fe allwch chi edrych ar yr hyn y mae'r mamau a'u plant yn eu gwneud o gysur eich cartref eich hun. Bydd cadwraeth yr ystlumod pedol lleiaf yn cael ei gefnogi ymhellach yn sgil gwaith ymchwil Prifysgol Bangor a fydd hefyd yn defnyddio’r clipiau fideo.

Peidiwch ag anghofio ein bod ni’n cynnal nifer o deithiau cerdded a digwyddiadau thema ystlumod o gwmpas y sir yn ystod yr haf, gan gynnwys cyfle i wylio'r ystlumod pedol lleiaf yn dod allan o'u man clwydo wrth iddi nosi ar 27 Awst. Gwelwch ein rhaglen ddigwyddiadau ‘O Gwmpas’ am fwy o fanylion.

Footer

Gwnaed gan Splinter