Navigation

Content

Llwyddiant Prosiect Madfallod y Tywod Gogledd Ddwyrain Cymru yn Parhau gyda mwy yn cael eu Hailgyflwyno

Dyddiad: 25.09.2013

Math: Bioamrywiaeth

Cynulleidfa yn ymgasglu i dynnu lluniau o sêr y sioeYn Nhalacre, ar arfordir Sir y Fflint, mae 65 madfall y tywod wedi eu rhyddhau fel rhan o brosiect cadwraeth tymor hir i ailgyflwyno'r fadfall brin i'r system dwyni sy'n ymestyn o Brestatyn i Dalacre. Diflannodd madfallod y tywod o arfordir gogledd Cymru yng nghanol yr ugeinfed ganrif ond maen nhw bellach yn cael eu hailgyflwyno i’r ardal. 

Mae Prosiect Madfallod y Tywod Gogledd Ddwyrain Cymru yn bartneriaeth rhwng Cynghorau Sir Ddinbych a Sir y Fflint, Cadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid a Chyfoeth Naturiol Cymru. Dechreuwyd y prosiect nôl yn 2003 pan gyflwynwyd madfallod y tywod ifanc i Draeth Presthaven yn Sir y Fflint ac i Dwyni Gronant yn Sir Ddinbych yn 2004.

Tri madfall y tywod ifanc yn eu tanc cyn iddyn nhw gael eu rhyddhau

Rhyddhawyd mwy o fadfallod y tywod ar ddydd Mawrth 10 Medi. Cafodd y rhain eu bridio yn Sw Gaer a gan ddau fridiwr annibynnol, Ray Lynch a Paul Hudson. Roedd yr holl fadfallod yn rhai ifanc a anwyd yn ystod yr haf ac nid oeddynt ond ychydig gentimetrau o hyd. Mi fyddan nhw’n bwyta pryfaid yn ystod y misoedd nesaf cyn gaeafgysgu. 

Mick Brummage, cofnodwr ymlusgiaid lleol, yn rhyddhau madfallMae Cynghorau Sir Ddinbych a Sir y Fflint a gwirfoddolwyr yn monitro poblogaeth y madfallod yn flynyddol ac mae gwaith cynnal a chadw yn cael ei wneud i sicrhau bod eu cynefin mewn cyflwr da.

Dywedodd Lizzy Webster, Swyddog Bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych, “Roeddem ni’n awyddus i recriwtio cymaint o wirfoddolwyr â phosib i fonitro’r madfallod a rheoli eu cynefin. Mae madfallod y tywod wedi eu hamddiffyn dan gyfraith felly mae arnom ni angen sicrhau bod ein gwirfoddolwyr wedi eu hyfforddi cyn iddyn nhw gynnal unrhyw arolwg."

Madfall yn y twyni ar ôl cael ei rhyddhau. Bu i’r madfallod ganfod cysgod yn syth bin yng nghanol yr hesg môr

Fe ddylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli gysylltu â Lizzy ar 01824 708263 neu elizabeth.webster@sirddinbych.gov.uk.

Twyni tywod Talacre – cartref newydd y madfallod

Footer

Gwnaed gan Splinter