Navigation

Content

Arolygon yr hydref – y pathew

Dyddiad: 21.11.2011

Math: Bioamrywiaeth

Mae’n adeg yna o’r flwyddyn eto, y dail yn disgyn, y tymheredd yn disgyn ac mae arolygon y pathew ar y gweill.  Cafodd y pathew gwrywaidd cysglyd hwn ei ddarganfod mewn coetir ger Clocaenog yr hydref hwn.  Mae'n un o nifer o'r pathew sy'n gwneud defnydd da o'r bocsys nythod a osodwyd fel rhan o Brosiect Pathew Gogledd Cymru.

Mae’r arolygon yma yn ein helpu i weld sut y mae poblogaeth y pathew yn amrywio o un flwyddyn i’r llall.  Mae’r pathew yn brin iawn ac rydyn ni’n eithriadol o lwcus i’w cael yn sir Ddinbych, felly mae’n bwysig ein bod yn cadw llygad barcud arnyn nhw.  Yn yr hydref, bydd y pathew yn treulio’r rhan fwyaf o'u hamser yn gloddesta ar gnau cyll ac yn paratoi ar gyfer gaeafgysgu.  Cynhelir yr arolygon nesaf yn y gwanwyn ar ôl i’r pathew ddeffro o’i drwmgwsg.

Dormouse

Pathew gwrywaidd a gafodd ei ddarganfod yr hydref yma mewn coetir ger Clocaenog (Angela Smith)

Footer

Gwnaed gan Splinter