Newyddion a Digwyddiadau
Newyddion Diweddaraf
2023: Tymor llwyddiannus arall i’r môr-wenoliaid bach!
31.08.2023
Rhaglen Gwirfoddolwyf Ebrill 2019 - Medi 2019
17.05.2019
Tudalen Gweplyfr
Diwrnod Adnabod Darganfyddiadau Daeareg ac Archeoleg
Dyddiad: 15.07.2011
Have you found an interesting object which looks as though it may have historical significance?
Ydych chi wedi dod o hyd i eitem ddiddorol sy’n edrych fel pe gallai fod ag arwyddocâd hanesyddol?
Ar ddydd Iau, Gorffennaf 21ain rhwng 11.00 a.m. a 3 p.m, fe fydd yna gyfle i chi ddod â’ch darganfyddiadau i Barc Gwledig Loggerheads lle bydd yna dîm o archeolegwyr a daearegwyr yn barod i roi cynnig ar eu hadnabod.
Felly os ydych chi wedi ffeindio hen ddarn arian neu ffosil, dewch â nhw draw a bydd y tîm yn fwy na bodlon ceisio olrhain tarddiad eich eitem.
Mae Loggerheads yn gyfoethog o Archeoleg a Daeareg. Mae’r safle wedi ei ddefnyddio mewn llawer o wahanol ffyrdd yn y gorffennol fel mwynglawdd plwm, er enghraifft, yn yr 19g. Mae’r safle’n gorffwys ar garreg galch helaeth sydd wedi ei dyddio i 350 miliwn o flynyddoedd yn ôl sy’n golygu, er ei fod yn anodd ei ddychmygu, bod yr ardal hon dan ddŵr 350 miliwn o flynyddoedd yn ôl, felly mae’n lle priodol i olrhain y pethau’r ydych chi wedi eu ffeindio.
Dywedodd Jacqui Malpas, daearegwr efo Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd: “Mae daeareg yr ardal yma’n hudolus yn dyddio’n ôl filiynau o flynyddoedd. Dewch â’r holl gerrig yna’r ydych chi wedi bod yn eu casglu neu arteffactau’r ydych wedi eu ffeindio ac fe fyddwn ni’n siŵr o geisio eu hadnabod nhw.”
I gael gwybodaeth bellach cysylltwch â Fiona Gale, Archeolegydd Sir Ddinbych ar 01824 708262 neu Fiona.gale@sirddinbych.gov.uk