Navigation

Content

2023: Tymor llwyddiannus arall i’r môr-wenoliaid bach!

Dyddiad: 31.08.2023

Claudia Smith, Ceidwad Arfordirol, Gwasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych 

Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych sy’n rheoli Twyni Tywod Gronant ac yno, ynghyd â’i nythfa gysylltiedig wrth y Parlwr Du, mae’r unig nythfa yng Nghymru o fôr-wenoliaid bach sy’n bridio. Y fôr-wennol fechan yw’r rhywogaeth leiaf o fôr-wennol ym Mhrydain. Hon yw’r ail nythfa fwyaf ym Mhrydain, ac un o’r mwyaf llwyddiannus, ac mae Cyngor Sir Ddinbych yn rheoli’r nythfa ers 2005.

Mae’r môr-wenoliaid bach yn treulio’r gaeaf yn Affrica, cyn teithio i orllewin Ewrop i fridio bob haf. Maent yn cyrraedd ym mis Mai i fridio ar gerrig mân ambell draeth dethol, cyn dychwelyd i Affrica ym mis Awst. Dim ond crafiad yn y tywod yw eu nythod, lle bydd parau, bob yn ail, yn deori rhwng 1 a 3 ðy. Mae môr-wenoliaid yn byw ar ddeiet o lymrïaid yn unig, drwy bysgota amdanynt ar y môr.

 Gyda chymorth gwirfoddolwyr o Grðp Môr-wenoliaid Bach Gogledd Cymru, mae staff Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych yn paratoi at y tymor ym mis Ebrill. Mae hyn yn cynnwys gosod ac adeiladu dros 3km o gorlannau ffens drydan, ffens allanol arall, canolfan ymwelwyr a chuddfan. Pwrpas hyn yw amddiffyn y nythod rhag ysglyfaethwyr ar y cerrig mân, a rhag i ymwelwyr amharu arnynt.

Wedyn, gwaith staff y Gwasanaeth Cefn Gwlad, a Wardeiniaid y Môr-wenoliaid Bach yn bennaf, sef Sam, Jonny a Jordan, oedd sicrhau bod presenoldeb ar y safle bob dydd. Roedd eu rôl nhw’n cynnwys cynnal y ffensys trydan, sy’n cael eu troi ymlaen dros nos i warchod y môr-wenoliaid rhag ysglyfaethwyr ar y tir, yn cynnwys llwynogod, gwencïod a charlymod. Roedd y wardeiniaid hefyd yn cadw golwg am ysglyfaethwyr o’r awyr – cudyllod coch a hebogau tramor yn bennaf, ac yn siarad gyda’r nifer o ymwelwyr sy’n dod i dwyni Gronant bob blwyddyn. Mae’r wardeiniaid yn cadw cyfrif o nifer y nythod sydd ar y cerrig mân, ac yn nes ymlaen, ar nifer y cywion, sy’n rhoi syniad o lwyddiant y tymor. Y tymor hwn, cofnodwyd 155 o gywion yn nhwyni Gronant, sy’n ymgynnull ar y lan cyn gwneud y siwrnai yn ôl i Affrica, ychydig wythnosau o oed yn unig!

Mae Sir Ddinbych wedi bod yn gweithio gyda phobl sydd wedi’u trwyddedu i dagio adar, sydd â thros 35 mlynedd o brofiad o weithio gyda môr-wenoliaid bach. Maen nhw’n casglu data gwerthfawr a fydd yn creu dealltwriaeth fwy manwl o’r adar yma. Er enghraifft, mae tagio yng Ngronant wedi helpu i ddod o hyd i’r fôr-wennol fechan hynaf ar gofnod, dros 25 oed!

Mae Gronant yn lle poblogaidd i griwiau o ymwelwyr ac rydw i wedi tywys nifer allan at y nythfa fy hun y tymor hwn. Un o’r ymweliadau cyntaf oedd criw o Geidwaid Ifanc o Barc Gwledig Loggerheads. Fe wnaeth grwpiau ysgol o Chweched Dosbarth Tir Morfa ac Ysgol Gynradd Bodnant hefyd fwynhau ymweld. Mae nifer o griwiau o oedolion wedi bod yng Ngronant eleni, yn cynnwys Gðyl Gerdded Prestatyn, cerddwyr Nordig a KIM Inspire. Mae’r nythfa’n boblogaidd ymysg ymwelwyr unigol: rhai’n adarwyr profiadol, ac eraill yn dod i’r traeth, ond â diddordeb mawr yn y môr-wenoliaid bach! Gallai rhai oedd yn ymweld â’r nythfa weld y môr-wenoliaid bach o’r ganolfan ymwelwyr a’r guddfan, ac o’r traeth hefyd, gan gadw y tu allan i’r ffensys.

Wrth ysgrifennu hwn, rydym ni wrthi’n gorffen datgymalu’r gosodiadau ar gyfer eleni. Mae gan Gyngor Sir Ddinbych bolisi gadael dim ôl yng Ngronant, sy’n golygu bod y cyfarpar yn cael ei gadw dros y gaeaf. Hoffem ddiolch i’r gwirfoddolwyr am eu gwaith caled eleni, ac edrychwn ymlaen at dymor llwyddiannus arall y flwyddyn nesaf!   

Os hoffech chi fwy o wybodaeth am nythfa môr-wenoliaid bach Gronant, neu i wirfoddoli, cysylltwch â claudia.smith@sirddinbych.gov.uk neu 07785517398.

Footer

Gwnaed gan Splinter