Navigation

Content

Newyddion Cefn Gwlad Sir Ddinbych Gorffennaf 2014

Dyddiad: 30.07.2014

Math: Cerdded Beicio Marcogaeth Ceffylau Bioamrywiaeth Volunteering

Walking Difficulty: Unknown

Ymladd estroniaid, bwyta cacen, golygfeydd, gwisgo arfwisg, cael babis a llawer mwy -Gwasanaeth Cefn Gwlad a Threftadaeth

Hynt a he Hynt a helyntion tîm cefn gwlad a threftadaeth 

Mae ein newyddlen mis Gorffennaf yn rhoi cipolwg o’r hyn yr ydym wedi’i wneud ac ar fin ei wneud.

 Mae gwyliau haf yr ysgol ar ein gwarthaf - dyma gyfle gwych i ymweld ag un o'n safleoedd cefn gwlad neu dreftadaeth wych. Dewch â'r plant neu wyrion....

I weld ein digwyddiadau a gweithgareddau Cliciwch Yma

Ar gyfer yr holl ddigwyddiadau a gweithgareddau yn Sir Ddinbych Cliciwch Yma

Am leoedd gwych i ymweld â nhw Cliciwch Yma

Disgyblion ysgol yn palu a phlannu

Mae criw o ddisgyblion Blwyddyn 9 o Ysgol Alun, Yr Wyddgrug wedi treulio eu Hwythnos Gymunedol ym Mharc Gwledig Loggerheads.  Maent wedi gwneud gwaith gwych o osod leinin ar y pwll yn yr ardd bywyd gwyllt ac wedi bod yn palu a chreu llwybr troed ar hyd ymyl y maes parcio i blant ysgol sy’n ymweld â’r lleoliad i gerdded o’r cilfan fysiau.

Cadw’n iach

 Rhaid cyfaddef nad oes unrhyw beth yn bwysicach na gofalu am eich iechyd. Mae rhaglenni sgrinio ar gyfer cyflyrau iechyd yn hanfodol bwysig ar gyfer diagnosis a thriniaeth gynnar. Mae cerdded yn fodd o’n hatal rhag datblygu llawer o’r afiechydon hynny. Trwy gyfuno'r ddau gyda sgrinio cerdded dros fywyd beth am annog pawb o’ch cwmpas i fanteisio ar y rhaglen sgrinio am ddim ac i fod yn egnïol, beth bynnag eu hoedran. I gael manylion am deithiau cerdded rheolaidd er budd iechyd yn Sir y Fflint ewch i www.walkaboutflintshire.com ac am fanylion ar sgrinio iechyd ewch i www.screening.wales.nhs.uk

Lansio Llyfr LLangynhafal

Lansiwyd llyfr hanes plwyf Llangynhafal gan Darren Miller AC yn y White Horse yn Hendrewydd. Mae'r llyfr yn rhad ac am ddim ac ar gael yn y tafarndai lleol ac yn Loggerheads. Gellir Gellir Clicio Yma hefyd

Bwyta Cacen (wrth gydweithio â chymunedau gwych)

Noson agored Lotment Coed y Morfa yn llwyddiant.

“Bu’r tywydd yn her, ond gyda chymorth gasebo o faint da ac ychydig o ymbarelau rydym wedi llwyddo!  Dyma blant y clwb lotment yn gwneud gwaith penigamp o weini te a chacennau mefus yn ogystal â gwerthu planhigion yr oeddent wedi’i dyfu, dosbarthu eu llyfrynnau ryseitiau eu hunain a chodi £70 at y lotment.  Roedd pawb wedi mwynhau blasu'r cacennau a goginiwyd â ryseitiau’r lotment - cacennau lemwn a courgette, moron a chnau Ffrengig a betys a siocled gwyn! Diolch i Tesco Prestatyn am gyfrannu bwyd gyfer y barbeciw."

 Mae’r gyfres gyfan o daflenni teithiau cerdded ar gael nawr o dafarndai a’r siop leol, ac o Loggerheads ac ar-lein

Ymladd Estroniaid

Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy – mae’r Goresgyniad yn ei Anterth

 Cychwynnwyd y mis mawreddog gwirfoddol o bledu Balsam yng Nghorwen. Mae gwirfoddolwyr; staff cefn gwlad; hyrwyddwr Bioamrywiaeth Sir Ddinbych, Huw Jones a chriw ffilmio’r BBC i gyd wedi bod yn cydio, torri, gwasgu a gwegian eu ffordd drwy gae llawn o Ffromlys Chwarennog.   Roeddem allan yn y cae ddydd Gwener ddiwethaf hefyd gyda chydweithwyr o Adnoddau Naturiol Cymru ac rydym wedi trefnu ddyddiad arall i gwrdd â’r chwyn bondigrybwyll ar ddydd Gwener (18 Awst). Dewch draw i helpu am awr neu ddwy neu am y diwrnod cyfan ................ byddwch yn synnu gymaint y byddwch yn mynd o dan ddylanwad y gwaith ar ôl dechrau! Rhowch wybod i ni os hoffwch helpu ar (01978) 869618. Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan hyd yn hyn!

Mae ymweliad safle gan y Tîm Cefn Gwlad a Threftadaeth i Ddyffryn Dyfrdwy wedi edrych ar wella mynediad yn Llantysilio Green i Raedr Bwlch yr Oernant, Dinas Bran gan gerdded yn ôl i Blas Newydd i gynnal cyfarfod ac i edrych ar y caffi newydd hyfryd. Daethpwyd â’r noson i ben gyda'r adran dreftadaeth yn curo’r adran cefn gwlad yn y bowlio.

 Mae gwelliannau mynediad wedi’u gwneud i Gastell Dinas Bran, sef y safle cefn gwlad fwyaf poblogaidd yn Nyffryn Dyfrdwy.  Mae cyllid gan WREN a Chymunedau a Natur wedi talu am y llwybrau pwrpasol newydd ar gyfer ymwelwyr, sy'n gwella diogelwch ac yn gwarchod yr archeoleg.  Mae giatiau mochyn haearn newydd i’w cael ag addurniadau o gerfluniau cigfran ac mae’r animeiddiad yn cael ei ail-ddangos (fel rhan o brosiect Cerdded Gyda Offa) trwy ddyfeisiau symudol.

Mae man parcio Llantysilio Green wedi’i ymestyn fel rhan o brosiect a ariennir gan Cadw a fydd yn galluogi pawb i fwynhau'r olygfa o Raeadr Bwlch yr Oernant yn ei leoliad hardd. Mae'r Rhaeadr ar ddechrau Safle Pontcysyllte a Chamlas Treftadaeth y Byd, ac mae mynediad newydd hefyd wedi'i drafod fel bod ymwelwyr yn gallu cyrraedd y safleoedd trwy’r cae yn uniongyrchol o'r maes parcio.

Gwirfoddolwyr yn mynd amdani yn Nantclwyd Y Dre

Mae’r Ardd Arglwyddi yn Nantclwyd y Dre, Rhuthun ar hyn o bryd yn mynd drwy gynllun adfer diolch i gyllid o £177,600 gan y Loteri Treftadaeth.

’Mae Ysgol Tir Morfa ac aelodau o'r gymuned leol wedi bod yn gwirfoddoli a chlirio rhannau o'r ardd sydd wedi tyfu'n wyllt yn ogystal â dylunio meinciau, clirio coed a phrysgwydd ac yn cloddio’r ddaear yn barod i blannu planhigion perlysiau’ Wendy Williams, Cydlynydd y Prosiect. Bydd ymwelwyr yn gallu gweld yr ardd yn ei ogoniant am y tro cyntaf yn Hydref 2015. Bydd perllan ganoloesol draddodiadol, medd blodeuog, coed cnau, gardd rhosod a llefydd i eistedd i fwynhau golygfeydd nas gwelwyd o'r blaen o’r dref a’r Castell. Bydd hyd yn oed cychod gwenyn yno i ddysgu am y grefft o gadw gwenyn. I helpu anfonwch e-bost at heritage@denbighshire.gov.uk neu ffoniwch 01824 708232.

Mae Cludiant Llangollen yn ei ôl

Ewch ar y bws mini AM DDIM o gwmpas hyfrydwch cudd Llangollen yn ystod yr haf. Mae'r gwasanaeth yn rhedeg ar benwythnosau o rðan tan ddiwedd mis Medi, ac ar ddydd Llun ym mis Awst.

Mae amserlenni i’w cael o’r Ganolfan Groeso neu Cliciwch Yma

Genedigaethau Llongyfarchiadau i Adrian ar ddod yn dad i fachgen bach sy’n ddigon o sioe.

Dathlu ein gorffennol

Dydd Sadwrn 12 Gorffennaf oedd cychwyn Gðyl y DU  o Archaeoleg Prydain. Dyma ni’n cychwyn yr ðyl yn Sir Ddinbych gyda phenwythnos o Wallgofrwydd Canoloesol. Roedd y rheini a fu’n ail-greu Cwmwd Iâl yn gwersylla ym Mharc Gwledig Loggerheads lle'r oedd yr ymwelwyr yn ail-fyw bywyd ar ddiwedd y 12fed a dechrau'r 13eg ganrif. Prydau bwyd, meddyginiaethau ac arfau oedd rhai o'r themâu. Ail-greu’r brwydrau oedd yr uchafbwynt i lawer.

 

Ac mae mwy ...

Dydd Sadwrn 26 Gorffennaf am 10am ym maes parcio Llangwyfan. Prifysgol Lerpwl yn cloddio ym Mryngaer Penycloddiau

Dydd Sul 27 Gorffennaf. Diwrnod Agored Bryngaer Moel y Gaer ym Modfari. Mae archeolegwyr a gwirfoddolwyr o Rydychen a'r ardal leol yn dadorchuddio tþ crwn sydd wedi dod i’r amlwg trwy arolwg geoffisegol.

Dydd Mercher 23 Gorffennaf. Ewch am dro i weld y cloddio. Cyfarfod ym Modfari yn yr arhosfan bws am 2pm.

Mae Archaeoleg yn ffynnu yn yr ardal ac mae’r Ðyl yn gyfle i chi ddal i fyny â rhywfaint o'r hyn sy'n mynd ymlaen

Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad a Threftadaeth Sir Ddinbych yn gweithio i wella'r tirweddau, bywyd gwyllt a threftadaeth arbennig yn Sir Ddinbych ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy (AHNE. Hefyd bydd y gwasanaeth yn helpu pobl i fwynhau a gwerthfawrogi eu hamgylchedd.  Maent yn rheoli dros 36 o Safleoedd Cefn Gwlad a Threftadaeth fel lleoedd gwerthfawr i ymweld â nhw ac i’w diogelu, rhai ohonynt sydd wedi'u dynodi'n genedlaethol neu'n rhyngwladol.

 Mae'r Tîm Cefn Gwlad yn darparu Gwasanaeth integredig gan gynnwys; cadwraeth, bioamrywiaeth, archeoleg, addysg, dehongli, amgueddfa, digwyddiadau, twristiaeth gynaliadwy, mynediad, strategaeth tirweddau, gweithgaredd iach, profiad gwaith a rheoli amgylcheddol ac adeiladau.

 Mae'r tîm bychan wedi cwblhau nifer o brosiectau sy'n cyfrannu at fyw'n gynaliadwy a iach ac yn annog parch at ein hamgylchedd hanesyddol ac ar gyfer y dyfodol. Mae'r cyflawniadau i'w gweld yn y newyddlen ar e-bost. Ni fyddai modd eu cyflawni heb ein partneriaid a'r gwirfoddolwyr anhygoel sy'n fodlon cyfrannu eu hamser, eu sgiliau a'u brwdfrydedd.

 Mae AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy o fewn Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam. Mae'n cael ei reoli gan Sir Ddinbych gyda chyllid gan Awdurdodau Lleol ac Adnoddau Naturiol Cymru.

 Am fwy o wybodaeth ewch i www.denbighshirecountryside.org.uk, www.clwydianrangeanddeevalley.org.uk ffoniwch 01352 810586, e-bost loggerheads.countrypark @denbighshire.gov.uk, HOFFI ni ar facebook Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych neu AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy neu trwy ddilyn ni ar Twitter @clwyd_dee_aonb.

Footer

Gwnaed gan Splinter