Navigation

Content

Gwneud Gwelliannau i Gynefin y Llyffant Cefnfelyn

Dyddiad: 03.04.2014

Math: Bioamrywiaeth

Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych yn freintiedig i gael rheoli Gwarchodfa Natur Leol Twyni Gronant, sydd yn gartref i un o'r unig boblogaethau o’r llyffant cefnfelyn yng Nghymru, yn ogystal â sawl rhywogaeth arall sy’n brin a than warchodaeth. Arweiniodd gwaith a gafodd ei wneud yn ddiweddar mewn partneriaeth gyda Chyfoeth Naturiol Cymru at welliannau i gynefin yr amffibiaid carismatig yma, wrth greu pedwar pwll bridio newydd ar eu cyfer.

Pwll newyddDiflannodd y llyffant cefnfelyn o Gymru yn ystod yr 20fed ganrif ond cafodd ei ailgyflwyno yn Nhwyni Gronant tua 15 mlynedd yn ôl. Ers hynny, mae'r safle wedi cael ei reoli er budd y rhywogaeth brin yma ac mae'r llyffantod yn cael eu monitro drwy gydol y tymor bridio gan staff y Gwasanaeth Cefn Gwlad. Gellir gwahaniaethu rhyngddo â’r llyffant du oherwydd y streipen felen sy’n rhedeg i lawr ei gefn. Mae gan y gwrywod alwad paru unigryw iawn, y gellir ei chlywed dros y twyni yn y gwanwyn.

Cafodd y pedwar pwll newydd eu creu gan Cyfoeth Naturiol Cymru fel rhan o gynllun i godi clawdd llifogydd gyda glan Cwter Prestatyn. Cliriwyd llystyfiant trwchus o rai o'r pyllau presennol hefyd gan fod yn well gan lyffantod cefnfelyn byllau gyda nemor ddim llystyfiant yn tyfu ynddynt.

GronantYn ôl y Swyddog Bioamrywiaeth, Lizzy Webster, "Mae’r gwaith a gafodd ei wneud gan Cyfoeth Naturiol Cymru a’r gwaith cynnal a chadw y mae wardeniaid Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych yn ei wneud yn sicrhau bod y pyllau a’r cynefin o’u cwmpas yn cael eu cadw yn y cyflwr gorau posibl ar gyfer llyffantod cefnfelyn. Er mwyn llwyddo i fridio mae'r llyffant cefnfelyn yn ddibynnol iawn ar ffactorau sydd y tu hwnt i'n rheolaeth ni, pethau fel y tywydd, ond ‘dan ni’n gobeithio y bydd y gwaith yma’n rhoi dechrau da iddyn nhw yn 2014. "

Mae llyffantod cefnfelyn yn cysgu dros y gaeaf a dim ond tua’r cyfnod yma maen nhw’n dechrau deffro. Mae croeso i chi ymweld â'r twyni i weld os clywch chi’r llyffantod gwryw, ond cofiwch fod y rhywogaeth yma’n cael ei gwarchod gan y gyfraith a bod angen trwydded i gynnal arolwg ohonyn nhw neu i dynnu eu lluniau.

I gael rhagor o wybodaeth am y llyffant cefnfelyn a’r gwaith sy'n digwydd i ofalu amdanynt, ewch i adran bioamrywiaeth y wefan neu cysylltwch â Lizzy Webster (elizabeth.webster@sirddinbych.gov.uk / 01824 708263).

Footer

Gwnaed gan Splinter